Prawfddarllenwyd y dudalen hon
canu yn y cysgodion. Beth yw'r aderyn mwyn, diniwed? Beth hefyd ond llwyd y gwrych, ac er llwyted ei wisg, a gwyleiddied er foes, per- thyn hwn eto, fel y brongoch a'r eos, i deulu y gân felus. Yn y rhan yma o'r wlad a o dan yr enw "gwrachell"-enw digon hyll. Adna- byddir ef yng nghartrei fy maboed fel gwas y gog," am y tybir yno mai efe yw yr aderyn bychan hwnnw sydd yn dilyn y gog,[1] fel trotwas boneddiges, ac mai yn ei nyth ef y gesyd y gog ei hwy i'w ddeori ganddo.[2]
Oddiarno, ar frig y pren, mewn goleuni di-gysgod, fe byncia'r asgell arian[3] gân yn y cywair llon, mor sionc, mor hoenus! Ysgafned yw ei alaw ef a'r chwa sy'n chware â'i bluf; hoenused yw ei ddyri a chân gŵr yng ngwenau hinon a hawddfyd. Y fath wahaniaeth sy
- ↑ Barn rhai naturiaethwyr ydyw mai y corhedydd (meadow pipit) ydyw trotwas y gog.
- ↑ Gwyddys nad yw y gog yn gwneyd nyth iddi ei hun. Dodwya ar y llawr,-fel y tybir,—caria ei hwyau yn ei phig, a gesyd hwynt yn nythod adar ereill—un yn y nyth yma, ac un mewn arall—i'w deor gan yr adar rheini. Dyma ei gweision, ac y maent yn llu mawr iawn—fel gosgordd hen farwn—llwyd y gwrych, y frongoch, yr aderyn du, y dryw, y rhawngoch, y gwddf gwyn, telor yr helyg, telor yr hesg, sigl ei gwt, y penfelyn, y llinos, y llinos werdd, yr ehedydd, ac yn enwedig y corhedydd grybwyllir uchod.
- ↑ Enw prydferth ar y gwinc neu y winc (chaffinch). Gelwid ef gennym pan yn blant yn "ji-binc!" oddiwrth ei nodau "ji-binc!" "ji-binc!" "ji-binc!" Un o'r adar mwyaf byw a nwyfus ydyw, am hynny dywed y Ffrancwr,"Gai comme Pinson," mor llawen a'r winc. Mor llawen a'r gog ddywedwn ni, onide? Clywais ddywedyd hefyd, am rywun sionc iawn, Mae fel y ji- binc."