Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw ei lais o arw. Ymgiprys ag adar mwy nag ef ei hun, ac ymrafaelia, heb betrusder, â'i gydryw-peth lled anghyffredin ym myd yr adar. Mae fel dyn gwrthnysig. Ymgecra hwnnw â'i fwy, ymgeintach â'i lai, a chroes-dynna â thylwyth ei dŷ ei hun. Pan welaf ŵr felly, yn fy myw nis gallaf na feddyliwyf am y swigw las fach—leiaf. Nodweddir yr aderyn bychan yma hefyd gan ddewrder. Aflonyddwch arno pan ar ei nyth. A ffy efe? Dim perygl. Ymgynhyrfa ei holl natur. Ymchwydda; cwyd ei bluf; hysia fel neidr; a neidia i'ch llaw os cyffyrddwch â'i nyth—canolbwnc ei serch a'i ddyddordeb ar y pryd. Chware teg i'r bychan; Os yw yn gecrus, mae yn ddewr. Nid yn aml y ceir y cyfuniad yma mewn dyn.

Nid ydym, hyd yn hyn, wedi gweled "y coch," na chlywed dim oddiwrtho. Pa le y mae? Cerddwn ymlaen gyda'r gwrych cauadfrig. Mae'r clawdd pridd sydd yn ei fon—yn y cysgod—wedi ei hulio â gwyrddlesni cynaraf y flwyddyn. Yma y ffynna Pidyn y Gog.[1] gyda'i ddail disgleirly fn—rhai yn wyrdd unlliw, ac ereill wedi eu manu yn hardd â chochlâs tywyll. Cydrhyngddynt y tyf Bresych y Cŵn,[2] a'u blodau gwyrdd taselog, a Chrâf y Geifr[3] drygsawr; ac yn eu cysgod y llecha y Mwsglys[4] eiddil a gŵyl, gyda'u blodau hynod. Yn pipian o'r ddaear yn y fan draw mae blaenau dail y

  1. Arum Maculatum, neu Wake-robin, Lords and Ladies, Cuckoo-pint.
  2. Mercurialis Perennis, Dog's Mercury.
  3. Allium Arsinum, Ramson, Broad-leaved Garlic.
  4. Adora Moschatellina, Common Moschatel.