Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welwch chwi wyn eu cytiau?—ac yn disgyn mewn yspyddaid arall yn nes i ganol y wig. Dyna'r adar coch. Pâr gweddog ydynt. Dilynwn hwynt. Awn ymlaen yn ochelgar drwy y mân goed sydd rhyngom a'r adar. Ust! Ara bach. Wchw! Be sy'n bod? "Whirr-r-r-r!" "Whirr-r-r-r!" dyna ddwy betrisen yn codi o ymyl ein traed ac yn tasgu ymaith ar frys gwyllt, gan leisio yn drystfawr a dychrynedig. Neidiwn yn ol—ninnau wedi brawychu gan ddieithrwch a sydynrwydd y dadwrdd. Edrychwn i'r llwyn. "The birds have flown!"—hwythau wedi tarfu. "Y petris—!" Caiff y diffyglin sefyll am yr ebychiad. I ble 'raeth yr adar? Chwiliwn am danynt. Clustfeiniwn. Ust! Dyna'r clychau aur. "Swit!" "Swit-swit!"—"sw-i-i-t!"—" swit!" Awn i gyfeiriad y seiniau—Welwch chwi rywbeth yn symud, symud, fel cysgod, yng nghanol y ddraenen obry? Dacw nhw. Mae eu hysgogiadau yn eithriadol ddi-drwst. Nesawn atynt, gan gadw yng nghysgod y berth. Troediwn yn reit ddistaw, rwan. Swit!"" swit-swit!" "Swit!" "swit!" Ust! Dyna ni yn eu hymyl ond fod llwyn di-ddail rhyngom a hwy. Sylwch. Dacw'r ceiliog yng nghanol y ddraenen yn hwbian yn aflonydd gan droi atom, yn eu tro, wahanol rannau ei gorff. Cymerwn hamdden i syllu ar "degwch ei harddwch ef." Mae ei ben, ei gynffon, a'i edyn, chwi welwch, yn ddu disgleiriol, fel muchudd caboledig. Ei gwman a'i fol sy' wyn eiraog. Mae rhan uchaf ei gefn o liw'r onnen. Rhuddgoch disglaer ydyw ei fron, a'i wddwg, a'i ystlysau. Ar draws ei edyn rhed bar llydan cymysg o binc a gwyn. Dyna i chwi