gyfoeth o liwiau fel ym meinwe'r enfys. Mae yn edn hardd. A ymfalchia efe, tybed, yng ngheinder ei bluf? A ymhyfryda efe yn nhlysni lliwiau ei wisg ysblenydd? P'le mae'r iâr? Dacw hi yn yr un llwyn a'r ceiliog, yn prysur bigo, bigo—mor-ddistaw! Sylwch, nid yw ei lliwiau hi mor danbaid ag eiddo ei chymar; nid yw y coch cyn goched, na'r du, feallai, cyn ddued. Er hynny, mae hithau yn ddillyn, ond gwylaidd ydyw ym mhresenoldeb ei harglwydd, fel y gweddai iddi fod. Yn nheulu'r adar, y gwrryw, fel rheol, yw y teleidiaf. Mae ei liwiau yn fwy llachar—yn fwy showy—nag eiddo y fenyw. Paham hynny? Feallai y cawn draethu ar hyn eto.
Ond dyna. Cawsom olwg iawn ar yr adar. Symudwn. Codant eu pennau gloewddu i fyny, ac edrychant o gwmpas. Maent yn ein gweled. "Swit!"—" Swit-swit!"—"swit!"— "swit!"—"swit!" Rhuthrant i ochr bellaf y llwyn, llamant megis i'r awyr, ac ehedant o'n golwg. A glywch chwi eu tinc yn y pellder? Gwrandewch!