Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrando arno ar brydiau felly? Naddo? Wel, awn allan, unwaith eto, i'r wig gerllaw'r ty.

Dyma ni. Safwn ar y bryncyn llawn blodau yma. Mae "hardd garped y gwanwyn gwyrdd" dan ein traed. Mae ysbryd yr haf yn ymrithio'n mhobman. 'Does ryfedd fod yr adar yn canu. Cyffroir hwy gan dlysineb anian. Llenwir hwy â llonder. A chanu a wnant! Bloeddiant bron na wichiant—ysgafned, hoenused y teimlant! Clywch chwibaniad y bronfraith, chwibanogl y deryn du, teloriad y brongoch, cyngan llwyd y gwrych, tryliad y llinos, telyn yr hedyau, carol yr asgell arian, dyri yr eurbinc, cathl y dryw, "gwew!" " gwew! y gog, a "swit!" swit!" "swit!" trystiog aderyn y to! Dyna i chwi restr o artistes!

Cân rhai yn ein hymyl. Cân ereill ym mhellach, ac ereill ym mhellach wedyn-ac wedyn -ac wedyn yn y pellderau draw, draw, draw. Ymdodda y lleisiau pellaf i'w gilydd, a chynhyrchant gynghanedd swyngyfareddol—weird—sy'n disgyn ar ein clustiau fel siffrwd dieithrol neu fiwsig suol, cyfriniol o fyd arall. Eto. Gwrandewch fel y dychlama'r seiniau yn yr awyr hydwyth, ac y dawnsiant yno. Ymdonna'r beroriaeth drwy'r wybr eang, ym mhob cyfeiriad; ymleda, ymleda fel cylchdon ar lyn -gan edwino wrth fyned ymlaen, a graddol ddistewi vn y pellafoedd draw, draw. Dyna gân yr adar. Beth feddyliwch o honi? Onid yw yn odidog?

"Wennol fwyn ti ddaethost eto." Dacw hi, yn wir, o'r diwedd! Ysbiwch! Bu hir ein disgwyliad am dani Ple buodd cyd? Gwelwch