Mae'r mwyeilch wedi crogi eu telynau ar yr helyg, ac ni chlywir hwy, weithian, ar frig pren yn pyncio cân. Mae'r gerdd arwest berorol wedi distewi am dymor. Ond nid di-gân i gyd yw'r côr asgellog. Welwch chwi, dacw frongoch yn disgyn yn ysgafndroed ar gangen y pren ysgaw cyfagos. Sionced ydyw! Gorffennodd fagu ei deulu ac y mae yn ysgyfala. Mae mewn gwisg newydd danlli. Mae newydd fwrw ei hen bluf—ei ddillad haf—ac wedi ymdrwsio 'yn ddestlus mewn gwasgod goch gynhes-glyd a chôt ddiddos werddliw—o eiliw'r olewydden. Mae yn gosod ei hun i ganu. Na; cymer ei aden a hed i frigyn uchaf draenen gerllaw. Mae yn edrych i'r ffurfafen loewlas wanafog, egyr ei big pibell ei organ-a dyhidla o honi hudolgan. uchel folianus. Ymchwydda ei fron ruddwawr, ymgrynna cyhyrau ei gorff gan mor egniol y cana. Cana, pyncia, telora ei hoewgyngan drosodd a throsodd. Yn ddisymwth hed i lwyfan uchel arall. Glywch chwi? A dros ei erddygan yr un mor ddygn yno.
"Ship!" "ship!" Be sy yna? Ha, dacw'r dryw bach, byw, syw, hoew, cynffonsyth, yn y llwyn wrth y mur yn pigo ei bryd o fân bryfaid. Wisgied yr ysgoga wrth gasglu'r pryd rhwng osglau'r pren! Mae yn chwimwth ac ysgafn esgeiddig! Nid cynt y disgyn ar un gangen nag y mae ar arall; a chyda ei fod ar honno, mae ar un arall drachefn yn pigo, pigo. Mae wrth y mur—mae ar y mur yn pigo, pigo. Ymlithra fel cysgod dros ei ymyl, ac ymfacha yn dyn yn ei ochr gan bigo, pigo. Mewn eiliad mae ar y llawr yn rhedeg yn hoewfyw fel llygoden faes ac yn pigo, pigo yno. Yr ydym yn ei darfu. Hed i'r prysgwydd, ac o'u canol—