Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofnau? Pa law fu'n trwsio'r pileri crisial? Pwy gyfunodd ei or-fan rannau ac a'u pert asiodd yn eu morteisiau? Pwy, â'i bwyntil, fu'n ei deg baentio? Pwy, ond yr Hwn sy'n "peri i'r gwellt dyfu ar y mynyddoedd" ac yn dilladu'r lili a'r rhosyn, y naill mewn gwyn a'r llall mewn coch? Onid meddwl dwyfol wedi ymflodeuo ydwyt, aspygan dlos, del lygad y dydd!

A gawn ni symud ymlaen? O'r gore. Yr ydym yn dod i ganol y prysglwyn cymysgliw. Welwch chwi'r lliwiau? Mor dlws-amliwiog yw'r deilios yma? Mor firain yw'r fieren! Mae ysgarlad ac aur ar ei harwisg hi. Ochr yn ochr, ar ein cyfer y cyd-dyfa draenen wen a chollen oleulwyd. Estyn y naill ei changau, 'n gyfeillgar, rhwng brigau y llall, gan gain leoli y dail gwahanliw. Mae dail y ddraenen, oedd drwy y gwanwyn o liw'r geninen, erbyn hyn yn loewgoch clir unlliw a'r claret. Cydrhyngddynt, fel tywyniadau haul melyn, y rheiddia eurddail crynddel y gollen. Cymhletha y gwyddfid[1] eu breichiau yn hardd gan ruddemau-am yddfau y ddeubren; ymddirwyn meinwlyddyn melynddaily winwydden ddu[2] am danynt fel plethdorch gymhendlos wedi ei haddurno â gleiniau emerald ac ambr; a choronir y cyfan âg eiron cwrel cangau y ciros. Unwaith eto, welwch chwi'r lliwiau?

  1. Lonicera Periclymenum; Honeysuckle, woodbine.— Melog, sugn y geifr, tethau y gaseg. Coch fel rubies yw eu grawn addfed.
  2. Tamus Communis: Black bryony.—Coedgwlwm, paderau y gath, rhwymyn y coed, afal Adda. Yn nechreu Hydref gwyrdd a melyn yw lliwiau'r aeron, ond tua'i ddiwedd gwridant i ysgarlad disgleiriol, ac er teced eu golwg maent yn wenwyn nerthol.