Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

TYBIA llawer nas gellir ysgrifennu am wyddor a chelf yn Gymraeg. Ystyrrir mai iaith athroniaeth a duwinyddiaeth, iaith y breuddwydiwr a'r bardd yn unig, ydyw hi. I lawer un, ysywaeth, iaith hen bethau yw, ac heb ddigon o adnoddau ynddi i ddarlunio peth mor newydd a bywyd y dyddiau hyn.

Y mae'r rheswm am y dyb gau hon yn eglur. Hyd yn hyn, ni chafodd y Cymraeg fawr o gynnyg ar adrodd hanes adar a blodau, rhamant