Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/75

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o aelodau unig ac amddifaid. Dyma un o honynt ar y gair, yn ffynnu ar ochr y clawdd, dan gysgod y gwrych. Welwch chwi ef? Er colli o hono ei geraint, eto nid yw wedi ei lwyr adael, canys y mae iddo yn gymdeithion o'i gylch, flodau hygar o lwythau ereill, nid amgen y goesgoch, a'r greulys, a chlychau'r eos, ac amryw ereill o flodau'r hydref.

Ond gadewch i ni gymharu blodyn y llysieuyn yma â blodau yr helyg. Gwneir coronig hwn i fyny, fel y gwelwch, o bump o fflurddail llathrfelyn. Ym môn pob fflurddalen mae melgell (nectary), a llabed bitw fechan—gellir ei gweled drwy y chwyddwydr ond plicio y ddalen ymaith yn cau yn dynn am dani er diogelu y Sylwch ym môn y fflurddail, fel rheol, y lleolir melgelloedd blodau crafanc y fran. Ceir eiddo yr helyg wrth waelod yr hadlestri (ovaries). Edrychwch eto. Yn union yng nghanol y blodyn mae llygad bychan lased a'r asur uwchben. Dyna yr organ fenywaidd. syllwn arni drwy y gwydryn yma canfyddwn ei bod yn gyfansoddedig o nifer o gnepynau gorfychain neu fân gelloedd eisteddog wedi eu pacio yn dyn i'w gilydd. Mae pob un o'r celloedd hyn yn amgau egwyddor hedyn, a hwnnw drachefn yn cynnwys rhith eginyn a ddadblyga dan amgylchiadau cyfaddas yn llysieuyn crafanc y fran. Welwch chwi, dyma flodyn ar gangen arall yn y fan yma yn ymffurfio yn ffrwyth. Mae y flodamlen, a'i goronig, 'rol darfod eu gwaith, wedi syrthio ymaith; mae y briger wedi hen wywo; ac nid oes yn aros ond swp o ffrwythelau (carpels) blaenfeinion, bachog bwaog, ar gopa y fflurgoes. Deuwn yn ol eto at y blodyn cyntaf. Ogylch y paladr, yn rheng-