chwi e'n disgyn?—yn gafod euraidd ar fy mhen —ysbiwch? 'Rwan, beth weinydda'r briodas rhwng y rhain â'r ffluron benywaidd? Beth garia y paill o'r naill i'r llall? Nid y clêr, nid y gwenyn, nid un ednogyn-fel ym mlodau yr helyg a'r egyllt-canys nid oes fêl yma, fel y crybwyllais, i ddenu y cyfryw drychfilod. Beth, ynte, yw'r cyfrwng? Y gwynt! 'Rwan ac yn y man, rhuthra gwyntoedd cryfion Chwefrol drwy'r wig, gan ysgwrlwgach, a rhugldrystio, a chwiban rhwng cangau hyblyg y prysgyll. Ysgytiant y brigau; neidia y paill, fel yn fyw, o'r fluron, chwelir a chwyrliir ef i bob cyfeiriad a syrth peth o'r llwch o angenrheidrwydd-gan y cyflawnder sy o hono-ar ermigau byw rhuddgoch y blodau benywaidd. Dyma i chwi stori carwriaeth a phriodas y cyll.[1]
Symudwn ymlaen. Rhwng y drain, a'r mieri, a'r dyrysni yn y fan yma, mae llysieuyn tirf a golygus yn ei lawn flodau, a hi eto yn aeaf. Nis gallwn nas gwelwn ef gan mor amlwg yw ei irlesni siriol ymysg cangau llwydion a diaddurn y coed a'i hanwesa. Lleinw ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu. Edrychwcharno. Mae fel y cip cyntaf ar yr awyr lâs pan fo'r cymylau yn ymwanafu ac yn ymwasgaru, a'r cysgodau yn cilio ar ol hir ddryc-hin. Dan gyffyrddiad yr awel onid yw ei flodau fel clychau'n canu? Onid yw ei ddail fel tafodau'n siarad? Onid ydynt yn sisial, sisial, fod y Gwanwyn yn nesu?
- ↑ Ffrwythlonir y rhan fwyaf o goed uchel y wig drwy gyfrwng y gwynt. Blodeua y cyfryw goed pan yn ddiddail a'r gwyntoedd yn uchel. Buasai dail yn rhwystro'r paill gyrraedd y blodau gwryw.