'Rwan edrychwn ar y tusw dail dyfnwyrdd sy'n tasgu allan o'r gwlyddyn, yn agos i'w frig. Hoffech chwi wybod eu hanes? Mae bywgraffiad y dail yn ddyddorol. Ganwyd hwy y gaeaf y llynedd, a meithrinwyd hwy yng nghysgod eu ceraint fuont feirw, ac yn swn lullaby lleddf yr oerwynt a siglai eu cryd wrth fyned heibio. Gwelsant enhuddo eu gwely â chwrlid purlan o eira perlog, a'i addurno â brodwaith o arian weithiwyd gan fysedd oerwynion y barrug Gwelsant law wen y Gwanwyn yn gwisgo y prysgwydd o'u hamgylch â harddwch; gwelsant yr Haf, hael ei law, yn hulio y glaslawr á blodau; gwelsant hefyd ddiosg y goedwig o'i cheinwisg gan law arw anfwyn yr Hydref. Bu stormydd dau aeaf yn curo arnynt. Erbyn hyn maent yn heneiddio. O hyn allan, fel bydd y dydd yn ymestyn, dihoenant hwy, a thua dechreu yr haf, pan fo irlas pob coeden a llwyn, a gogoniant y wig yn ei anterth, syrthiant ymaith yn swn lleddfol yr Awel, gan roddi eu lle, yn ol deddf olyniaeth, i'r dail bychain. iraidd sy'n ymwthio allan oddiarnynt gydag ynni a bywiogrwydd diflino ieuenctyd.
Mae'r dail yn od, meddwch. Ydynt. Nid yn aml a welir eu cyffelyb. Tynnant ein sylw ar unwaith oherwydd dieithrwch a hynodrwydd eu ffurf. Tebyg ydynt o ran llun ac ystum i bawenau neu balfau, a'u crafangau rhintach yn llydan agored, ac yn ymestyn allan, ac yn ymsymud dan yr awel unwedd ag ewinedd byw aflonydd bwystfil rhaib pan ar grychneidio'n chwimwth ar ei ysglyfaeth. Welwch chwi mor darawiadol yw'r tebygrwydd? Pa fardd a'i gwelodd gyntaf? Dyma paham, yn ddilys, y galwyd y llysieuyn yn balf neu yn bawen; ac