Wedi disgyn, y peth cyntaf wnaethom oedd edrych o'n cwmpas am le i gael brecwest, a gwelem "Westy Llydaw" yn sefyll gerllaw. Gofynasom yn Gymraeg i ŵr tew corffol safai ar y rhiniog a gaem goffi a bara. Gwenodd wên fawr, ac arweiniodd ni i'w barlwr. Yr oedd yno ddodrefn derw cerfiedig prydferth, yn enwedig cwpwrdd, wedi ei gerfio yn 1639, ac arno lun grawn ac angelion a gwaith ffili gri. Yr oedd yno lestri hen hefyd, er amser Harri'r Pedwerydd, a chyda hwynt yr oedd dysglau llaeth lawer, a buddai gnoc. Yr oedd y llestri'n llawn o laeth, a'r hufen melyn melys ar ei wyneb, — ac yr oedd pob arwyddion mai lle llawn o dda'r byd hwn oedd Gwesty Llydaw. Yr oeddym yn newynog — mae hynny i'w gofio, — ond yr ydym yn meddwl na chawsom erioed gystal brecwest, o leiaf am dair ceiniog.
Lle henafol ydyw Landerneau, yn meddu rhyw naw mil o bobl, ar yr afon Elorn. Ar y cei helaeth y mae lliaws o goed wedi eu plannu, y mae'r tai cerrig yn uchel a hen, — teimlem y rhaid ein bod mewn tref bur enwog, er na wyddem ddim o'i hanes. Y mae tŵr rhidyllog yr eglwys, a'i golofnau meinion, yn bur darawiadol; y mae tawelwch o gwmpas yr eglwys bob amser, oherwydd ni cha plant fyned iddi, na chware yn y lle agored o'i blaen. Gwelsom lawer o bobl ynddi, — rhai'n gweddio, rhai'n cyffesu, rhai'n begio. Gwyddem na fyddai llawer o ddieithriaid yn dyfod i Landerneau oherwydd y sylw dynnem ni; synnem, hefyd, fod y Llydawiaid yn llygadrythu cymaint arnom, a ninnau mor debig iddynt mewn pryd a gwedd.
Mae mwy o seremoni o lawer yng ngorsafoedd y Cyfandir nag yn ein gorsafoedd ni. Ni cheir rhodio'n rhydd hyd y platfform fel y ceir ym Mhryden, rhaid aros mewn ystafell wedi ei rhannu'n dair, — lle mae'r mawrion, y canol, a'r tlodion, — nes clywir chwibaniad y tren yn y pellter. Yr oedd arnaf hiraeth am gael fy nghoesau'n rhydd, a chyflymu’n ol a blaen ar hyd y platfform welwn drwy wydr y ffenestr; ond nid oedd dim i'w wneud, rhaid oedd imi gadw popeth yn