llonydd ond fy llygaid. Rhaid cael pob math o bobl i wneud byd, dyma hwy, yn disgwyl am y tren, — bechgyn a'u dillad wedi eu gwneud mor afler a phe baent wedi eu gwneud i blant pren; hen wraig, a'i gwallt gwyn yn gyrls i gyd; capten llong, mewn côt fer ac esgidiau esmwyth; dandi dan het silc dal, het fel corn simdde; offeiriad wyneb bloneg, yn mwmian gweddiau ac yn edrych ar wagedd o gil ei lygaid; bechgyn a hetiau duon Llydaw, bechgyn a hetiau gwellt gwynion Ffrainc; merched y wlad mewn melfed du, yn dawel ac yn stans; ac ysgol ferched mewn gwisgoedd lliain newydd danlli yn ol ffasiwn ddiweddaraf Paris. Agorwyd y drws, a rhuthrasom ar draws ein gilydd i'r tren. Cefais amser, cyn iddo gychwyn, i sylwi ar dryciaid o geffylau. Yr oedd yno ddwsin lle na ddylai mwy na phedwar fod, yr oeddynt yn chwys diferu, ac wrth iddynt ymwylltio yn eu poenau, byddai gyrrwr bwystfilaidd yn procio ei ffon i'w ffroenau. Y mae'r Llydawiaid yn hoff o'u hanifeiliaid; ond am y porthmyn, cenedl greulon ac esgymun ydynt hwy.
Y Mynyddoedd Duon a Mynyddoedd D'Arrée ydyw asgwrn cefn Llydaw. Rhedant drwy ganol y wlad, o gyffiniau Ffrainc i'r môr. Gwenithfaen ydyw eu defnydd, — weithiau, yn enwedig ar eu pennau, y mae'r garreg yn noeth; dro arall, lle y mae ychydig o ddaear yn ei chuddio, tyf glaswellt garw'n fwyd i ddefaid a geifr teneuon; yn nes i lawr, ar ochrau'r mynyddoedd, ceir daear ddyfnach, a dyffrynnoedd, a dwfr yn rhedeg, a ffrwythlondeb mawr. Obell, y mae golwg dywyll a phruddglwyfus ar y Mynyddoedd Duon, nid oes arnynt hwy y lliwiau gleision tyner sy'n gwneud mynyddoedd Cymru mor brydferth. Yr oeddym yn troi gyda thrwyn y mynyddoedd hyn tua'r de, nid yn eu croesi'n hollol, ond eto'n ddigon uchel arnynt i weled yr holl wastadedd oedd odditanom, a Môr y Werydd ar ei orwel.
Ar ein llaw chwith gwelem y Mynyddoedd Duon o hyd; bob yn ail, fryn a dyffryn, y dyffryn yn rhedeg i'r gwastadedd ac i'r môr. Nid oedd gennym amser