adael Daoulas gwelem wlad weddol wastad, — rhyw silff ar ochr y mynydd, — gwlad garegog a phur ddiffrwyth, lawn o dai henafol, prydferth, cadarn. Y mae rhyw ddieithrwch digri yng ngwisgoedd y Llydawiaid sy'n gwenu arnom, mae'r plant yn tafu blodau i ni, ond wff! dyma ni mewn tynel, ac wedi mynd allan o hono, y mae mur o bridd o bobtu i ni, fel na welem ddim. Llawer o gymharu sydd wedi bod rhwng y tren a'r hen gouts fawr y byddai'n tadau'n arfer trafaelio ynddi. Mae rhywbeth yn fwy gonest yn ymddanghosiad yr olaf, — byddai'n rhedeg hyd y prif ffyrdd, yng ngolwg pawb, a byddai'n mynd i bob tref trwy y porth mwyaf. Ond am y tren, y mae rhywbeth yn llechwraidd ynddo ef, — y mae ei lwybr yn aml o olwg tramwyfa'r bobloedd, trwy'r caeau a'r tu cefn yr â, a daw allan yn rhan isaf trefydd a dinasoedd, rhyw hanner lleidr, hanner pryf genwar, hanner ysbryd drwg ydyw'r tren. Y mae'r gouts fawr, fel gloyn byw, yn harddach lawer yn yr haf, ond druan ohoni yn y gaeaf.
Dyma ni allan eto, mewn gwlad goediog, heb dŷ yn y golwg yn unlle, a dyffrynnoedd lliosog, — ac afon yn gudd yn eu dyfnderoedd coediog yn rhywle, yn ymddolennu tua'r môr. Yna daeth gwastadedd ardderchog, ond buan yr ymdonnodd yn fryniau wedyn. Yr ydym yn awr ar ael mynydd uchel, clywn chwibaniad erchyll y tren, fel ysgrech aderyn drwg wrth ehedeg gyda chopa'r mynydd, yn cyhoeddi i drigolion Quimerch ein bod yn dod. Bryniau, rhosdir, eithin wedyn, dyma ni'n croesi afon fordwyol, — gwelwn hi ymhell odditanom, a'i mwd coch, — ac yn aros yn Chateaulin. Yr oedd yr orsaf yn llawn o bobl mewn gwisg Llydewig. Sylwasom fod rhyw debygrwydd yng ngwisg y bobl yma i wisg offeiriadol. Yr un oedd gwisg y bobl a'r offeiriaid unwaith, ond y mae gwisg yr offeiriaid wedi aros yr un, tra mae gwisg y bobl wedi newid yn ol gofynion eu gwaith. Y mae gwahaniaeth mawr, heblaw gwahaniaeth iaith, rhwng Llydawr a Ffrancwr