Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/108

Gwirwyd y dudalen hon

eto. Daeth Ffrancur tew olewaidd i'r un cerbyd a ni; yr oedd Llydawr wedi cario ei nwyddau, ac wedi eu rhoi mewn diogelwch, ond wedi colli'r Ffrancwr; toc llygadodd ei dderyn, a daeth at ddrws ein cerbyd a'i het yn ei law. Wedi iddo fyned cyhoeddodd y Ffrancwr felltithion ar bopeth Llydewig, — eu hiaith, centyl eu hetiau, eu hesgidiau pren, eu hwynebau melancolaidd, a'u "bragou brâs."

Wrth adael gorsaf Chateaulin ceir golwg ar y dref, — un o'r golygfeydd prydferthaf yn Llydaw. Rhed dyffryn i fyny o'r dref, a gwelir eglwys a mynwent a choed duon ynddo, y mae rhyw ddieithrwch anesgrifiadwy yn y dyffryn hwnnw, y mae Natur ei hun fel pe wedi heneiddio ynddo. Gwlad odidogo wenith, a dyma ni'n croesi prif gadwen y Mynyddoedd Duon, lle mae creigiau uchel ac ewyn ar y dwfr. Yna disgynasom i wastadedd Quéménéven, a rhedodd y tren yn esmwyth hyd lawr dyffryn yr afon Ster, trwy wlad hyfryd o gaeau a pherllanau, i hen dref Quimper.