RHAGYMADRODD.
MEDDYLIAIS, cyn cychwyn i Lydaw, y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad fy hun, oherwydd yr un bobl yw'r Llydawiaid a'r Cymry, a'r un yw eu hiaith. Ond, wedi byw ychydig o wythnosau ymysg y Llydawiaid, a rhoddi tro amgylch ogylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i'r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn, — ar eu hwynebau, ar eu harferion, ar eu hiaith.
"Ail Gymru ydyw Llydaw." Ie, ond gyda gwahaniaeth mawr.
Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Nid ydyw'r hen arferion ofergoelus, gyda'u prydferthwch dieithr, wedi eu halltudio o'r wlad; nid oes yno yr un seiat i ddinistrio "difyr-gampau diniwed y werin, ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur." Eithaf gwir, ac y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynnu ato.
Cymru heb ei Hysgol Sul ydyw Llydaw. Y mae'r Llydawiaid yn ofergoelus ungred,—ni agorwyd eu llygaid i weled dirgelwch yr Arfaeth a'r Gair; y mae'r Llydawiaid yn byw yn ofn yr offeiriaid, ac yn wasaidd gaeth i'w huchelwyr, ni chawsant Ysgol Sul i roddi iddynt gred yng ngwerth eu henaid, i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru. Y mae'n amhosibl i Gymro ddirnad anwybodaeth ei gefnder Llydewig.
Cymru wedi sefyll tua dechre'r ddeunawfed ganrif ydyw Llydaw, — mewn crefydd, mewn moesoldeb, mewn gwybodaeth. Wrth fynd i Lydaw, y mae'r Cymro'n mynd ymhellach na thros fôr, y mae'n mynd ddwy ganrif yn ol. Y mae'r Llydawiaid eto yn "eglwys eu tadau," eto'n dilyn arferion eu tadau, — yn canu'n ddiddan, yn dawnsio'n dda, yn meddwi'n chwil.