Gwirwyd y dudalen hon
- "Llawn o obaith, mae hi'n dechre gwawrio arnom ni'n awr. 'Doedd dim posibl cael Llydawiaid Quimper i ddod i'n capel, ond yn awr yr ydym wedi cael ystafell, ac y maent yn dod i honno'n lluoedd."
- "Beth ydyw'ch meddwl am y syniad sy'n ennill tir yng Nghymru y dylid rhoi'r genhadaeth yn Llydaw i fyny ?
- "Yr wyf yn teimlo'n sicr na rydd Cymru mo Llydaw i fyny byth. Affolineb mawr fyddai ei rhoddi i fyny'n awr, ar ol blynyddoedd caled o weithio, pan mae'r ffrwyth ar ymddangos.
- "Beth yw'r arwyddion welwch o hynny ?"
- "Y maent i'w gweled ym mhob man. 'Roedd Pabydd deallgar yn dweyd wrthyf ychydig yn ol fod ar yr offeiriaid ofn yn eu calonnau weled Pabyddion yn dod i'n hymofyn i gladdu eu meirw; a phan wnant hyn, bydd gallu'r offeiriaid ar ben. Ond chwi gewch weled yr arwyddion eich hunan gyda hyn."
- "A oes gennych lenyddiaeth Lydewig Brotestanaidd go dda? Trwy'r emynnau, mi gredaf, yr enillir y Llydawiaid."
Dywedodd y cenhadwr beth sydd wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn, aeth yn bur frwdfrydig, a chanodd un o emynnau James Williams, ar yr Hen Ddarbi, gydag arddeliad,–
"Discennet er Crist deus en nenfou,
Efid clascet ar re gollêt,-
He galon oe leun o drugares,
Ar falla so bet safeteệt,
Eur becheres bras oe pardonet,
Dre feritou prisus he ouad,
He chalon cen lous so bet goalchet,
He chenchet a gren he goall stad."
Gofynnais a oedd Pabyddiaeth ddim wedi dysgu'r bobl i weled prydferthwch llenyddiaeth a natur a chrefydd. Y mae llawer o dlysni yn hen grefydd Rhufen, a bu ei dylanwad ar fywyd yn fawr.