Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

XVI.

YR EGLWYS GAM.

MEWN gwesty Llydewig cawsom ein hunain yn gartrefol iawn ymhob man. Ceir yr hen groesaw Cymreig yn ei holl symlrwydd calon— gynnes, — daw'r morwynion i roddi ychwaneg o ymborth ar y ddysgl, rhagofn fod y dyn dieithr yn rhy swil i wneud cyfiawnder âg ef ei hun, ac i holi, o wir awydd am wybodaeth, beth y mae'n wneud. Pan oeddwn yn ysgrifennu emynnau Llydewig o ysgrif-lyfr oedd y cenhadwyr wedi roddi yn fenthyg imi, daeth morwynig o Lydawes ataf, a gofynnodd ai cerdd oedd gennyf, ai cerdd Gymraeg oedd, ac a wnawn ei chanu. Gwyn fyd na fedraswn ganu iddi yr emyn oeddwn yn ysgrifennu —

Hen ho peus gwelet,
Hen ho peus gwelet,
Iesus, fa Ffrener ha Doue?
'Fid eur pecher efel doun
Roas 'so bues dre chouad fa Roue.'

Ond ni fedraf ganu. Mewn cyngherdd o offerynnau nid oes ond un offeryn fedraf fi ddeall, — y drym fawr. Y mae rhywun wedi dweyd, — mae pobl yn dweyd pob peth, — mai'r clyw yw'r mwyaf ysbrydol o'n holl synhwyrau, ac y mae rhywun arall wedi dweyd fod ysbryd canu'n hanner chwaer i ysbryd addoli. Os felly, y mae ar ben arnaf fi.

Ac eto, ni ddylwn ddigalonni, oherwydd bum unwaith yn arweinydd côr. Yn Geneva oedd hynny, pan oeddwn yn gaeth mewn ystafell yno gan afiechyd.