Yr oedd gennyf le tân hir hen ffasiwn, a phymtheg o decelli arno'n rhes, yn canu drwy gydol y dydd. Nid oeddynt o'r un faint, ac nid yr un faint o ddwfr fyddwn yn roddi ym mhob un ohonynt. A thrwy eu ffitio fel hyn, a thrwy ddyfal ymarferiadau, a thrwy eu harwain gyda megin, yr oeddwn wedi dysgu'r pymtheg tecell i ganu Gorymdaith Gwŷr Harlech. Ryw ddiwrnod, er dirfawr brofedigaeth imi, taflodd y tenor goreu ei big, ac ni fu lun ar y côr byth ar ol hynny.
Bore'n hail ddiwrnod yng Nghuimper, dechreuasom grwydro drwy ystrydoedd diddorol y dref. Yr oedd y farchnad ar ein ffordd, a throisom iddi i weled y Llydawesau a'u blodau newydd ddod o'r wlad. Yr oedd enwau y trefydd Llydewig a'u pais arfau ar y mur, — Castell Newydd, Lesneven, Port Lauray, Audierne, coron a tharw Car Haix, draig goch Pont l'Abbé, draig wen Pont y Groes, bwyell goch Concarneau, llong Morlaix, hwrdd Quimper, tair pluen Brest, castell Chateaulin, ceiliog coch Quimperle, draig ddu St. Pol de Leon, dwy ddraig Landerneau, llewpard Le Faou, Le Conquet, Douarnenez.
Eglwys Gadeiriol Quimper ydyw adeilad enwocaf y dref. O bell, y mae fel pe ar edyn, oherwydd amlder ei hategion, fel draig a dau gorn hir yn ymbaratoi i esgyn oddiar y ddaear. Wedi myned i mewn, y mae golwg wir fawreddog ar y colofnau a'r gwydr lliw. Wedi sylwi ychydig, gwelsom fod yr eglwys yn gam, fel llwybr a thro ynddo drwy goedwig dewfrig. Gwnaed hi'n gam i fod yr un fath a Iesu Grist ar y groes, pan oedd ei ben wedi gogwydd gan ing.
Ar golofn ar ein cyfer y mae hanes yr eglwys yn gerfiedig, ac enwau ei chymwynaswyr, — y Gradlon ddiangodd pan foddodd y môr Ddinas Is, Owen Cabellic, Alan Rivelen, Bertrand Rhosmadec, Raoul le Moel, Claude de Rohan. Ar y dde, gwelsom gapel y Forwyn Fair, a "Je suis l'immaculee conception" fel coron o amgylch ei phen. Hysbyswyd ni fod yn y capel hen bethau y dylem eu haddoli, sef,