Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

Y mae Llydaw mewn perigl, ac ni fedd nerth Cymru i'w wynebu. Y mae anffyddiaeth andwyol Ffrainc yn prysur dreiddio i'w chyrrau eithaf. Y mae'r offeiriaid anwybodus hunanol am eu bywyd yn ceisio cadw'r bobl dan hud ofergoeledd; y mae'r bobl hynny, dan ddylanwad ysgolion a phapurau newyddion Ffrainc, yn dyheu am ryddid. Ond nid i'r rhyddid sydd yng nghyfraith yr Arglwydd y maent yn prysuro, ond i ben-rhyddid anfoesol digrefydd Ffrainc. Wyneb Cymro sydd gan y Llydawr, — eto heb ei feddylgarwch; canu Cymru ydyw canu Llydaw,— eto heb dân gwladgarwch a dyfnder argyhoeddiad crefydd. Ond, Os na chyfrynga Rhagluniaeth yn fuan, ni bydd y Llydawr ond Ffrancwr, — heb awen, heb athrylith, heb Dduw yn y byd. Cwyna Victor Hugo, bardd mwyaf Ffrainc, fod adlais llais Crist yn mynd yn wannach wannach yn y wlad, — {{Dyfyniad| “Mais parmi ces progrés dont notre age se vante, Dans tout ce grand éclat d'un siècle éblouissant, Une chose, O Iesus ! en secret m'epouvante, C'est l'echo de ta voix qui va s' affaiblissant."

_________________

NODYN GOLYGYDDOL. Gwyddis yr ysgrifennwyd y llyfr hwn a'r awdwr yn fachgen ifanc. Diau pe bai wedi ei ysgrifennu yn hwyrach yn ei fywyd y buasai ambell i beth ynddo yn wahanol. Ceir ynddo Llydaw fel ei gwelid gan Brotestant, eto gan un oedd yn ei charu. Dywed y Llydawyr Catholig nad ydyw y llyfr yn rhoddi eu crefydd yn yr olwg briodol, ac felly nad ydyw yn gwneud cyfiawnder a hwy. Dylai'r Cymry sydd yn cymeryd diddordeb yn eu perthynasau agos, y Llydawyr, geisio deall y ddwy olwg ar y wlad, ac wedi iddynt ddarllen "Tro yn Llydaw," ddarllen dau bamffled y Bonwr Pierre Mocaër, — "LLYDAW A CHYMRU," a "TUEDDIADAU LLENYDDIAETH LLYDAW"; Cyhoeddwr: A. LAJAT, 38 Rue des Fontaines, Morlaix, Llydaw. Dylai y gwledydd Celtaidd dynnu yn agosach at ei gilydd, dylem gymeryd mwy o ddiddordeb yn ein gilydd.