yr anifail hirglust), Troeder, Keribin, Le Berre (Y Byr), Le Goig, Le Bris (Y Brith), Canet, Caralec. Chwarddasom wrth weled un enw,—"Le Moel, Peruquier," Y Moel, trwsiwr gwallt.
Crwydrasom drwy'r ystrydoedd Llydewig sy'n dringo ochr y bryn,—" Ystryd y Gwyr Bonheddig a'i cherfiadau; Ystryd Pichéry, lle mae "Tafarn y Bobl Seilion," — y mae llawer o fynych wendid yn Llydaw hefyd; a llawer hen ystryd dawel arall. Llydaweg glywem yn yr ystrydoedd hyn, ac ar lan yr afon loyw, a than y coed, ond yr oedd yr hysbyslenni i gyd yn Ffrancaeg. Yr unig hysbyslenni Llydewig welsom oedd rhai bydwragedd a meddygon anifeiliaid. Rhyw— beth yn debig ydyw yng Nghymru, clywais Gymraeg ddigonedd ar heolydd Caerfyrddin, ond yr unig Gymraeg welais yn ffenestri ei siopau oedd hysbyslenni am bregethau ac am furum sych.
Gwelsom Guimper ar fin nos, pan oedd y lleuad newydd yn dod i'r golwg dros ysgwydd goediog y bryn. Gwelsom y goleu'n crynnu ar yr hen furiau, ar ddau bigyn yr eglwys gam, ar y coed oblygent uwchben yr afon, — ac ni welsom ddim prydferthach erioed.