Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

ei sgîl, ond, dan bwysau'r ddau, yr oedd y môr yn prysur ennill ar y ceffyl. Pan oedd y tonnau wrth sodlau'r march, daeth marchog arall a charlamodd yn ochr y brenin, a gwaeddodd arno'n llidus am daflu Dahut i lawr. Gwelodd Gradlon mai ysbryd Gwenole oedd yn siarad âg ef, a thaflodd ei ferch i lawr mewn ufudd- dod iddo. "Pwll Dahut? y gelwir y lle y boddodd merch y brenin hyd heddyw. Wedi ei boddi hi, peidiodd llid Gwenole a chynddeiriogrwydd y môr. Y mae cerdd Lydewig yn y Barzaz Breiz am foddi gwastadedd Is.

I.

A glywaist ti eiriau gŵr Duw,
Wrth Radlon Mawr, hen frenin Is?
Gwylia, gwin a chariad yw
Dinistr byd. Rhaid talu'r pris."

II.

Ebe Gradlon,"Hoff gyd wleddwyr, cysgwch heno gyda mi,"
"Pell y cerddodd y nos weithian, cysgwn gyda thi."
A daeth llais o'r mwynaf glywyd i glust merch y brenin ffol,
"Dahut anwyl, dwg im allwedd Dinas Is, ti a'i cei yn ol."

III.

Cysgai’r brenin yn ei harddwch, harddwch henaint teg,
Syrthia'i wallt fel cawod eira ar ei fantell borffor cain,
Ar ei wddf 'roedd cadwen emog, ac arni agoriadau ddeg,
Gwelid allwedd caerau'r moroedd, allwedd fawr, ymysg y rhain.

IV.

Daeth geneth wen ysgafndroed
Yn ddistaw, ddistaw,
I'r frenhinol 'stafell gwsg,
Gan wrandaw, gwrandaw.
Anadliad cwsg ei thad,
Yn unig glywai,
Ond su alaethus y môr
ar bell ororau.
O faen yr hen ŵr oedd yn huno penliniodd,
Y gadwen a'r allwedd yn ddistaw gymerodd.