Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/125

Gwirwyd y dudalen hon

V.

Mae'r brenin yn cysgu. Ond daw gwaedd o'r iselder,—
"Mae'r drysau yn agored, mae'r môr yn rhuthro i mewn,
"Fy mrenin ! O cwyd! Dy farch buanaf gyfrwyir,—
"Mae'r tonnau brigwynion cynddeiriog yn dyfod !
"Ho! Ffowch am eich bywyd, drigolion y gwaelod !
"Mae'r môr ar ein gwarthaf, pwy agorodd y drysau?
"Pa adyn melltigedig a'n bradychodd i Angeu?"

Mae buanfarch y brenin ar ucheldir Pen Afroedd,
A Chaer Is yn eigion y dyfroedd.

VI.

"Goediwr, dywed imi, a welaist fuanfarch
Hen frenin Is yn dianc rhag y môr?"
"Ni welais ddim, ond aml yn nyfnder nos
Mi glywais sŵn traed ceffyl yn dianc rhag y môr,
Trip, trep, trip,
Trep, trip, trep,
A'r môr yn dod i mewn.
Bysgotwr, dywed imi, a welaist forwyn fôr
Yn cribo ei gwallt melynaur ar y lan?"
Do, llawer gwaith y gwelais forwyn wen y môr,
A'i chân, fel llais y tonnau, 'n gwynfannus wan."

Prynhawn dedwydd dreuliasom gyda'r cenhadwr ar ochr y bryn, y môr a Dinas Is odditanom, a chymylau uwchben yn lleddfu'r gwres. Ond rhaid oedd rhoddi terfyn ar yr ymgom, gan fod bysedd clociau'n mynd o hyd. Troisom tua thŷ'r pregethwr Le Groignec. Y mae'n byw mewn rhan isel yn y pentref, — a pha le sydd futrach na phentref pysgotwyr. Esgynasom risiau. yr oeddynt yn fudron a lleidiog iawn. Wrth fynd i fyny, gwelem du fewn llawer ystafell, ac yr oeddynt oll yn fudron ffiaidd. Cyn hir cyrhaeddasom yr ystafelloedd uchaf ar y fflat, ac yr oedd tynnu i fyny iddynt o'r lleill fel myned o'r ddaear i'r nefoedd, — llenni gwynion, dodrefn cyn laned a'r aur, plant bach tlws, iechyd, a chân. Dyma deimlir, bob amser wrth fyned o dŷ Pabydd i dŷ Protestant. Beth bynnag arall y mae Protestaniaeth yn wneud, y mae'n dysgu pobl i olchi eu hwynebau ac i lanhau eu tai, ac y mae hyn yn sicr o fod yn rhan bwysig o grefydd Iesu Grist.