XVIII
GWLAD Y BEDDAU
YMGYNGHORASOM ddiwedd ein diwrnod olaf yng Nghuimper, a gwelsom nad oeddym eto wedi teithio ond prin hanner cylch Llydaw, tra'r oedd ein mis gwyliau bron ar ben. Rhaid i ni oedd teithio'n gyflymach o lawer trwy'r ail ran o'n tro, a rhaid i minnau gwtogi f'ystori.
Cododd y Bychan ni'n fore, ac wrth deimlo hyfrydwch tawel y bore hwnnw, gwnes hen benderfyniad mai aderyn bore fyddwn o hyd. Teithiasom tua'r de ddwyrain, tua Vannes, trwy wlad fynyddig, i fyny dyffryn afon fechan, gan adael Bau Marwolaeth a Phen March o'n holau, a chan ddilyn traethell Bau Biscay ar ein de. Gwelsom fod deheudir Llydaw yn llawer tlotach na'r gogledd,—oherwydd fod y tir yn fwy diffrwyth, ac oherwydd fod marchnadoedd Lloegr ymhellach. Nid ydyw'r tywod a'r diffeithleoedd wedi eu gwneud yn erddi fel yn y gogledd, y mae pob plentyn wedi ei eni'n gardotyn, ac y mae'r offeiriaid Pabaidd i'w gweled yn heidiau duon fel brain.
O Guimper i Rosporden cawsom gwmni hen offeiriad, budr ei grys, budr ei lyfr. Ni welsom neb yn gwneud yr arwydd leiaf o barch iddo yng Nghuimper nac yn Rosporden. Ac eto yr oedd ganddo ef a'i debig ddigon o ddylanwad ar ofnau'r bobl i wneud Rosporden yn lle anghysurus iawn i genhadwr Protestanaidd.
Dywed Villemarqué fod Rosporden yn hynod yn yr hen amseroedd am y dawnsfeydd a elwir carnaval, pan ymwisgai dynion mewn mygydau a chrwyn anifeiliaid i wneud eu diffeithwaith. Llawer ystori ddywedwyd