i ddiddyfnu'r Llydawiaid oddiwrth y dawnsfeydd hyn. Unwaith, yn eglwys fawreddog Quimper, a dim ond llusern fechan yr allor yn oleu, clywid llais dwfn offeiriad o Rosporden yn canu'r hanes hwn,—
GWLEDD Y MARW.
Bu digwyddiad yn Rosporden
Lawer blwyddyn faith yn ol,
Sobrodd lawer un gwyllt-nwyfus,
Ac yn gall wnaeth lawer ffol.
Gwelid tri o lanciau ieuainc,
Mewn tafarndy'n yfed gwin,
Poethai' gwaed wrth fynych godi'r
Cwpan at eu min.
Yn eu meddw nwyf ymdeithient,
Gan wneud drygau'n ewn,
Hyd nes cyrraedd porth y fynwent,—
Aeth y gwaetha i mewn !
Ar y llawr 'roedd esgyrn pennau,
Meiddiodd godi un,
Ac a'i dododd, feiddgarwch !
Ar ei ben ei hun.
Yn lle'r llygaid, dyllau gweigion,
Rhodd ddwy ganwyll wen,
Ffoai pawb o fewn y pentre,
Rhag yr erchyll ben.
Danghosodd Duw ei anfoddlonrwydd,
Rhuodd taran ddofn
Dros holl wyneb du y nefoedd, —
Llewygodd rhai gan ofn.
Wrth roi'r benglog yn y fynwent,
Ebe'r llencyn hy,—
"Hen frawd marw, nos yfory
Tyr'd i swper ataf fi."
Aeth y nos a daeth y bore,
Fel bu lawer gwaith;
'Roedd y llencyn fel arferol;
Canai gyda'i waith.
Daeth nos drannoeth. Amser swper
Clywid cnoc ! cnoc ! cnoc !
Ebe'r bachgen gwyllt di feddwl,
"Dof i agor toc."
Daeth y Marw hwnnw i mewn,
A dwedodd, "Dyma fi,
Onid ydwyt yn fy nisgwyl
I swpera gyda thi?"
"Nid yw'th swper di yn barod,
Parod yw f'un i,
Yn fy meddrod oer mae'r arlwy,
Dyfod raid i ti.
Clywid gwaedd angeuol,
Yn welw wyw aeth gwedd
Y llanc wahoddwyd yno
I wledda yn y bedd.