Gwelsom gastell adfeiliedig Hennebont, ac adroddasom i'n gilydd y digwyddiadau cyffrous gymerodd le yn y rhan hon o dalaeth Morbihan. Wedi cyrraedd Auray, gadawsom y tren, i roi tro trwy wlad y beddau. Y mae'n anhebig iawn i'r wlad ydym newydd ei gadael; yn lle gwlad fryniog, a choedwigoedd mwsoglyd fel cestyll, cawn ddarn o wlad wastad, weddol anial, yn rhedeg i'r môr. Cloddiau isel o gerrig mân a thywyrch, ffyrdd union digysgod, gwastadedd tlawd gwyntog, — dyna ydyw gwlad y beddau. Yr oeddwn wedi gweled Stonehenge, a rhaid i mi gyfaddef nad ydyw Carnac yn ddim wrthi : siomedig iawn y teimlem wedi gweled y cerrig anferth sy'n sefyll neu orwedd ar y llannerch eang wastad hon ar lan Bau Biscay. Rhyfeddem beth oeddynt, — ai pyrth temlau, ai beddau, ai beth. Gwyddem yn sicr eu bod yn rhan o ryw hen grefydd baganaidd, dderwyddol hwyrach, sydd wedi diflannu o flaen Cristionogaeth. Gwelsom groes haearn wedi ei gosod ar un o'r cerrig mwyaf, ac yr oedd yr hen garreg fawr baganaidd fel pe’n gwargrymu'n anfoddog dan y groes. Wrth weled y cerrig, dros ddwy fil o honynt, yn sefyll ar y gwastadedd, ac yn gwyro oll yr un ffordd, bron na chredem fod yr hen chwedl yn wir, sef mai tyrfa o baganiaid oeddynt, fu'n erlid ar ol sant, wedi eu troi'n gerrig, fel gwraig Lot gynt, pan ar roddi eu dwylaw ar y Cristion ffoai o'u blaen. Ar y gwastadedd dieithr hwn y mae'r plant bach tlysaf welais erioed. Dilynasant ni rhwng y rhesi hirion o gerrig, yn droednoeth goesnoeth, gan ddisgwyl dimeuau. Pan symudem, trotiai tyrfa fach ar ein hol, a'u llygaid goleu prydferth yn llawn gobaith, trwy'r eithin a'r grug. Wedi deall ein bod wedi rhoddi pob dime, ni adawsant ni; daethom yn ffrindiau mawr, hwy'n siarad Llydaweg, a ninnau'n siarad Cymraeg.
Yn y cwmni difyr hwn, cyrhaeddasom bentref Carnac. Yn yr eglwys gwelsom enw perchennog un o'r seti, — "Me. Dieu me garde de Kervegan", (Caerfechan), a gwnaeth hyn i ni feddwl am Praise God Barebones,