Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/132

Gwirwyd y dudalen hon

ac am ei frawd But-for-the-grace-of-God That-would- have-been damned Barebones. Y mae yma hefyd sant sy'n gwella pob afiechyd ar wartheg; gwelais ddau hen ffarmwr ar eu gliniau o'i flaen.

Un o'r pethau dieithriaf welais i erioed ydyw mynwent Carnac. Y mae'n erchyll o ryfedd ac ni allaf ei anghofio, er gwneud fy ngoreu. Pan fo'r corff wedi pydru yn y bedd, codir ef i fyny, a rhoddir ef mewn arch ar lun tŷ. Gwelais lawer o'r rhai hyn, a'r enwau arnynt,—Marie Ann Guillevic de Kercloir a'r gwallt melyn hir eto'n aros ar y benglog, a llawer eraill yr oedd pobl y lle yn eu hadnabod yn dda. Wedi iddynt aros ychydig ar y beddau, teflir yr esgyrn i adeilad mawr gerllaw. Gwelsom hwy yno, tyrfa o bobl feirw, a rhedyn Mair yn ceisio ymgripio dros gwr o'r pentwr erchyll. Pan dery'r cloc hanner nos, dywedir y cyfyd yr esgyrn hyn, ac y gwelir hwy'n myned yn orymdaith i'r eglwys gerllaw. Sicrhaodd saer maen fi ei fod wedi gweled ffenestri'r eglwys yn oleu yn nyfnder y nos; aeth yno, a thrwy'r ffenestri gwelai'r gynulleidfa o esgyrn, ac Angeu mewn gwenwisg yn y pulpud yn pregethu iddynt.

Y mae llawer lle diddorol ar wastadedd Carnac, Quiberon, lle bu brwydr chwerw rhwng y ffoedigion Llydawaidd a'r Chwyldroadwyr, a lle llawer bedd, dolmen, a maen hir, — ond ni fynnai amser aros wrthym, a gorfod i ni redeg ar hyd y ffordd hir lychlyd, drwy'r gwres, rhag colli'r tren. Yn yr orsaf gwelsom ddwy Saesnes baciog, wedi gorfod rhedeg fel ninnau, ac yn dweyd dear wrth ei gilydd mewn dull na fai Llydawr uniaith byth yn deall gwir ystyr y gair. Disgwyliem gyrraedd Vannes cyn i'r nos gerdded ymhell iawn.