XX.
TROI ADRE.
BORE Sul dringasom y bryn serth i fyny i'r ddinas, trwy ddanadl, a bysedd cochion, a mieri, — a'r olygfa yn ymeangu o hyd. Gwelem ddyffryn y Seez,— mwd tywodlyd, llanerchi o welltglas gwyrdd, a'r afon yn ymddolennu hyd y gwastadedd; gwelem fryniau pell Llydaw, a thawelwch y Saboth yn gorffwys arnynt.
Cyrhaeddasom ben y bryn, a chawsom olygfa nad o fewn y byd ei hardderchocach. Odditanom gwelem Mont St. Michel ar graig sy'n ymgodi o'r tywod ym Mau Cancale, a gwelem Normandi goediog fel bwrdd odditanom, a'r ffyrdd yn rhedeg fel saeth hyd ei gwastadeddau. Draw gwelem Lydaw, fel y gwelir bryniau Cymru oddiar furiau Caer. Cofiasom mai duc Normanaidd Avranches, Huw Flaidd, oedd duc Caer hefyd; a bod ei lygad chwannog wedi bod yn edrych ar Gymru o Gaerlleon Gawr fel y bu yn edrych ar Lydaw oddiar y bryn uchel hwn.
Ond i'r eglwys yr oeddym yn cyrchu. Bu eglwys ar ben y bryn yr ydym yn sefyll arno, ond nid oes ond ychydig o gerrig nadd yn aros ohoni, y garreg y bu Harri'r Ail yn penlinio arni mewn edifeirwch yn eu mysg. Dacw'r bobl yn dylifo i'r eglwys newydd, fel cacwn geifr i'w nyth, ymhell cyn yr amser. Pan darawodd y cloc ddeg, daeth dyn mewn gwisg las ac ymyl wen gau'r drws. Gyda'r Normaniaid, ac nid gyda'r Llydawiaid, yr ydym yn addoli heddyw,— y mae eu llygaid yn las, nid oes neb yn cymeryd sylw ohonom, 'does neb yn dweyd “ Dowch i'n sệt ni,”– tebig i'r Saeson, ac nid i'r Cymry, ydyw'r rhain. Ar