Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon

TRO YN LLYDAW.

I.

MYND I'R MÔR.

" Y mae'r byd a'i droeon dyrys,
Yn debig iawn i'r môr gwenieithus,
Weithiau'n drai ac weithiau'n llanw,
Weithiau'n felys, weithiau'n chwerw."
Ieuan Glan Geirionnydd.

YR oedd defnynnau breision o wlaw braf yn disgyn ar laswellt cras llethrau Llanuwchllyn pan oeddwn yn cychwyn, cyn diwedd Gorffennaf, i edrych am fy nghefndryd yn Llydaw. Yr oedd wyneb Llyn Tegid, fu'n loyw a llonydd am wythnosau, fel môr arian tawdd, wedi crychu a duo i wynebu drycin. Er cynhared oedd, gwelwn fod y cnwd ysgafn o wair wedi ei hel oddiar finion y Ddyfrdwy, oddigerth ambell i renc neu fwdwl o olion. Ac ar yr adlodd coch llosg yr oedd defnynnau mawr y glaw cynnes maethlawn yn disgyn yn ddibaid.

Pan lithrodd y tren i Riwabon, gwelwn Ifor Bowen yn fy nisgwyl. Rhoddasom ein hychydig gelfi, — sebon a chrib a dau ddilledyn lliain neu dri,— mewn ysgrepan, yr unig ysgrepan feddem i'r daith, ac yr oedd hon mor ysgafn fel y medrem ei thaflu hi a'i chynnwys i'n gilydd o'r naill ochr o'r orsaf i'r llall. Gwyddwn trwy brofiad na fai'n edifar gennym am ysgafnder ein clud.

Yr oedd y gwenith yn dechre llwydo ar Ddyffryn Maelor pan oedd mynyddoedd Berwyn yn cilio o'n golwg. Ar ein cyfer yn y tren yr oedd dwy hen wraig a hen ŵr. Un dew dawel oedd un o'r gwragedd, a