wyneb mawr fel cloc hen ffasiwn, yn gwenu o hyd, ond yn dweyd dim. Nid oedd y llall yn gyffelyb iddi. Wyneb hir main oedd gan hon, dwylaw gwynion esmwyth a bysedd hirion llonydd, gên ystwyth ryfeddol, a thafod na ddichon un dyn ei ddofi. Yr oedd y wraig dew wedi gosod ei hun yn y gornel, a'i hwyneb i mewn i'r cerbyd, a'i dwylaw celyd ymhleth, mewn agwedd gwrando. Yr oedd y wraig deneu wedi eistedd ar ymyl y fainc a'i hwyneb at y llall, a'i chefn at yr hen ŵr, mewn agwedd siarad. Llifai'r geiriau allan yn ffrwd ddidor, yr oedd yn medru siarad hyd yn oed wrth gymeryd ei gwynt. Yr oedd ar yr hen ŵr, — hen wraig ddylai fod, — awydd cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Hen Gymro oedd, bychan o gorff, — meddai gorff teiliwr a bysedd crydd, — mewn trowsus du gloywddu cwta, hosanau lliain gyda mwy o dyllau na'r rhai y rhoddai ei draed drwyddynt, esgidiau isel clytiog, cot ddu seimlyd, a het wellt wen ysgafn heb fod o'r defnydd goreu. Pe bai fawr a'i lais yn gryf, medrai wneud i'r ddwy wraig wrando arno, ond yr oedd cryndod yn ei ên, ac ni allai yn ei fyw hawlio gwrandawiad. Treiai roi ei rwyf i mewn yn awr ac eilwaith, ond buan y boddid ei lais gan y llais arall.
- "Ut us feri drei weddar in Wêls,"-
- "And as I was telling you, my dear, he told me on his deathbed that the house was to be mine, but that I must paint it and keep it tidy. I couldn't paint it under ten pounds, and I hadn't ten shillings. Now, what could I do?"
- Ddi crop of he us feri lutl in Ingland,'
- "So I determined to let them have it, and I left Liverpool for good, and I went up to Thlangothlen."
- "Se ut agien, mam, se ut agien !"
Yr oedd cymaint o awdurdod yn llais yr hen ŵr y tro hwn fel y trodd y ddwy wraig ato,—
- "Whêr dud iw se, mam?"
- "Thlangothlen."
- "Llan Gollen, se ut leic ddat."
- "Thlan Gothlen."
- "Ha! Iwar mywth usnd ffinisd, iw Inglis pipl, leic ddi Wels."