Fynwy mor dlos. Ymagorodd dyffryn yr Wysg ar ein de, gwelem ei brydferthwch diarhebol dros gastell Aber Gafenni. Gadawsom yr afon yn Llangadog, a chroesasom i ddyffryn afon arall, mor dryloyw a'r Wysg. Ar ein de yr oedd hanner cylch o fryniau, a gofynnodd Ifor Bowen a oeddwn yn disgwyl cael golygfa mor brydferth a hon hyd nes y gwelem hi drachefn wrth ddod yn ol. Cyn i mi orfod ateb yr oeddym wedi cyrraedd Caerlleon, dinas Arthur Fawr, ac wedi cyfarfod yr Wysg eto, nid yn dryloyw fel o'r blaen, ond yn goch wedi crwydro ar hyd daear feddal wastad Gwent. Yr oedd cawod o wlaw'n orchudd dros Gasnewydd, ac ni chlywsom y tren yn arafu nes oedd wedi croesi'r Hafren drwy dwll odditani, ac wedi ymgyflymu drwy gwr o Sir Gaerloyw tua Bristol. Cawsom heulwen ar Fath, ac amser i fwyta ychydig o fefus Gwlad yr Haf. Yr oedd Ifor Bowen yn llawen, ac yn canu'n ddibaid. Yr oeddwn i'n gysglyd, ac nid wyf yn cofio ond ychydig am y prynhawn, — Bradford yn ymnythu yng nghesail bryn, llun ceffyl gwyn ar ryw fynydd, cwpanaid o de da yn Westbury, gwlad o ŷd a choed, chwyrniad y tren, a thôn ar y geiriau,
“Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd.”
Yr oeddwn yn ddigon effro i weled olion caerau Prydeinig Dorchester, a phrin yr oedd wedi dechre nosi pan gyrhaeddasom Weymouth. Nid oedd ein llong yn cychwyn dan ddau o'r gloch y bore, a buom mewn tipyn o benbleth pa fodd i dreulio'r oriau hyd hynny er budd ac adeiladaeth i ni. Cerddasom yn ol ac ymlaen hyd finion bau ardderchog Weymouth, cyrchfa miloedd o bobl wael a di briod ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr oedd tri atyniad ar fin y môr, — seindorf dannau, Punch and Judy, a chyfarfod diwygiadol. Yr oedd cerbyd, — rhywbeth hanner y ffordd rhwng cerbyd sipsiwn a wagen hela Syr Watcyn, — wedi dod