III.
DINAS MALO.
“ |
“We have had enough of action, and of motion we,
Rolled to larboard, rolled to starboard, while the furrow
followed free." |
” |
TRA'R oeddwn yn meddwl am ddyfodol Cymru, teimlwn law Ifor Bowen ar f’ysgwydd, yr oedd newydd ddod i fyny o'r caban, ac wedi darganfod fod y llong yn agos iawn i'r porthladd. Gadawsom St. Aubin a'i bau bach tlws, ac ymhen ychydig, aethom i mewn i borthladd St. Helier. Yr oedd arnaf fi awydd am gael syllu ennyd ar y porthladd a'r gaer sydd yn ei wylio, ond yr oedd ar Ifor Bowen awydd am gael ei draed ar y ddaear, a gwybod i ba westy yr aem. "Deuwch gyda ni," ebai'r hen ŵr o Guernsey, "chwi hoffwch y lle'n fawr." Dilynasom ef a'i gwmni o'r llong, cerddasom ar hyd y cei hir a thrwy heol gul i ganol y dref, — lle'r banciau, a'r siopau, a'r llyfrgelloedd,— a chawsom ein hunain yng nghyntedd y Birmingham Hotel, dan gysgod gwinwydd gleision. Rhoddodd Mrs. Rondel groeso cynnes i ni, a gwahoddodd ni at y bwrdd, gan fod y cinio'n barod. Rhoddwyd ni'n dau i eistedd ar law dde'r westywraig, a'n cym- deithion ar yr aswy. Yr oedd pedwar ohonynt, — yr hen ŵr cam; ei wraig, un wedi ei gwneud at drin y byd, yn gwybod i'r chwarter ffyrling faint oedd pris pob peth; ei ferch, geneth welw o bryd du, rhyw bump ar hugain oed, un fedrai bario tatws wrth fodd ei mam, a chanu'r piano er anystwythed ei bysedd; a chyfaill iddynt, hen fachgen mawr trwchus, a gwallt cyrliog, cyn hyned agos ag Wmffre Gam ei hun. Ein tyb oedd ei fod wedi priodi'r eneth, a dywedodd Mrs. Rondel wrthym yn ddistaw bach mai felly'r oedd.