Deallasom hefyd fod rhyw Wil Hopcyn yn y chware, a'i fod wedi gorfod canu erbyn hyn, —
“Ym Mhen y Bont ar ddydd y farchnad
Cwrdd a 'nghariad wnes i ’n brudd,
'Roedd hi'n prynnu'r wisg briodas,
A'r diferyn ar ei grudd.”
Un golwg ar wyneb Sian O'Falus oedd yn ddigon i ddangos nad oedd siawns i Wil am yr eneth yn erbyn Ionfawr Bwrs. Pobl dawel foneddigaidd oedd y pedwar hyn, a'u hymddygiad yn wylaidd a charedig. Yr oedd saith neu wyth o Saeson wrth y bwrdd hefyd, ac nid oedd y rhai hyn yn dawel nac yn foneddigaidd. Yr oedd yno ŵr ieuanc heb ddim talcen, ond yn meddu gwddf fel gwddf tarw, yn siarad yn ynfyd ac yn chwerthin yn ynfytach. Yr oedd yno un ddynes yn eu mysg, yn cadw cymaint o sŵn a phymtheg o wragedd pysgota. Yr oedd Sian y Llais wedi cael addysg dda, ond synnai'r eneth arall ati, er nad oedd hi ond geneth bario tatws. Y mae rhyw wylder na fedr yr addysg uchaf ei roi, ac na fedr y diffyg addysg mwyaf ei guddio. Gofynnodd Sian Lais i Ivor Bowen ysgrifennu pennill yn ei llyfr, a daeth ag ef ataf fi i ofyn beth oedd, —
"Bum edifar fil o weithiau,
O waith siarad gormod geiriau;
Ond ni'm blinodd gofid creulon,
O waith siarad llai na digon."
Yn y prynhawn buom yn cerdded trwy dref St. Helier, ac anaml iawn y gwelsom le tlysach a glanach. Y mae ynddi rhyw wyth mil ar hugain o drigolion, heblaw'r lliaws dieithriaid, ac y mae ei hystrydoedd a'i siopau yn batrwm i ddinasoedd y byd. Y mae ei thrigolion mor foesgar a'r Ffrancod, ac mor onest a'r Saeson. Dringasom Fryn y Crogbren, — yr oedd yr haul ar y môr, a'r ynys a'i thref yn ddarlun o ddedwyddwch a golud odditanom. Eisteddasom ar y glaswellt tan welsom yr haul yn colli dros orwel y môr.