Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

cyn lleied ag a fedrid, a'r merched yn ofni fod hynny'n arwydd o ddiffyg "dygiad i fyny." Wrth y tŷ coed lle codir tocynau ar gei Jersey y cyfarfyddasom gyntaf. Wrth i mi wasgu ymlaen i gael tocyn, dywedodd y fam yn awdurdodol mai eu tro hwy oedd y nesaf, a gosododd ei harswyd arnaf. Sefais yn y pen pellaf i'r llong oddiwrthi, gydag Ifor Bowen a rhyw Lydawiad. Yr oedd y Llydawiad yn troi adre ac yn canu nes oedd y creigiau'n diaspedain wrth i ni neshau at ddinas Malo Sant.

Dyma'r lle cyntaf welsom yn Llydaw. Saif ar graig red allan i'r môr, a gwelsom fod mur uchel cadarn yn amgylchu'r ddinas. Glaniasom yn olaf rai. Daeth dau filwr i chwilio'n hysgrepan a'n pocedi, a gwelsom dyrfa ohonynt yn agor cistiau’r merched Seisnig, mawr fraw iddynt. Gwrthodasom gymeryd ein harwain i'r un gwesty, ond cerddasom yn hamddenol trwy borth enfawr i'r dre, a dechreuasom ddringo y stryd. Pan oeddym ar ei chanol, aeth cerbyd y Grand Hotel Franklin heibio, a'r pedair Saesnes ar ei ben. Edrychasom ar gerdyn y gwesty hwn, roddasid inni gan ryw hogyn,-

GRAND HOTEL FRANKLIN. Mae'r tŷ'n adnabyddus am ei gysur. Ystafell ardderchog i giniawa. Pris pymtheg swllt y dydd, heb gyfri gwin a gwasanaeth. Cerbyd wrth bob tren Siaredir Saesneg."

Lleoedd i'w gochel fel rheol ydyw gwestai y siaredir Saesneg ynddynt, os meddylir am weld y wlad, ac yn enwedig os cynilir. Wedi cyrraedd yr eglwys, — y mae'r tai goreu braidd bob amser yn ymyl yr eglwys a'r siopau llyfrau, — troisom ar y dde hyd Stryd y Gemau, ac yna i lawr hyd stryd gul uchel, hyd nes y daethom at westy a'i wyneb wedi ei guddio gan flodau. Dau arwydd sydd gen i fod gwesty'n gysurus a'r bobl yn onest, — gweled llyfrau a gweled blodau, — ac ni siomwyd fi erioed. Aethom i'r Hotel du Centre, a daeth Llydawes i'n croesawu. Eisteddasom mewn ystafell lawn o ddodrefn derw du, wedi eu cerfio'n gelfydd, a thynasom ysgwrs.