o blant a gwragedd a merched yn eu capiau gwyn, a'u basgedi ar lawr yr eglwys wrth eu hochr. Yr oedd yno lawer o ofergoeledd, a defosiwn, a phrydferthwch. Yr oedd difrifwch addoliad ar yr holl wynebau tlysion, — gwelsai Dafydd ap Gwilym lawer Morfudd yma. Yr oedd mawredd y colofnau a goleuni tyner y ffenestri lliw'n dylanwadu arnom ninnau er ein gwaethaf, a theimlem rywbeth tebig i awydd addoli'n dod drosom. Ond, wedi mynd allan, teimlem mai dylanwad arwynebol oedd dylanwad yr eglwys; gwanhau ein meddyliau a wnai, gwneud i'n heneidiau suddo i ddiogi, a thybied fod y diogi’n addoliad. Deffro’r meddwl ddylai addoliad iawn wneud, a'i yrru i chwilio am wirionedd, i ymhyfrydu mewn hiraeth am Dduw. Wedi gadael yr eglwys teimlem ein meddyliau'n wannach a gwacach, a'n heneidiau'n fwy llesg — ac arfer gair sathredig, teimlem fod y colofnau a'r goleu wedi ein gwneud. Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn. Ni cheir yma y nerth enaid rydd yr efengyl, ni cheir yma y dwfr bywiol sydd yn gwneud yr enaid unigol yn breswylfa Duw. O bell y mae Pabyddiaeth yn dlws a swynol, ond ni wna ond twyllo'r enaid â dwfr na fedr ddisychedu. Pe gwelai'r Llydawiad yr Iesu, ei weddi yn ei eglwys fyddai, — "Arglwydd, dyro i mi y dwfr bywiol, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr."
Yr oedd yn dechre nosi pan adawsom yr eglwys, ac yr oedd yr heolydd yn edrych yn gulach a duach yng ngoleuni egwan yr ychydig lampau wrth i ni droelli drwy'r farchnad bysgod a ffordd rhyw santes i'r Place Chateaubriand, y lle agored sydd dan gysgod y castell anferth saif ar yr unig wddf o dir sy'n cysylltu St. Malo a'r lan. Yr oedd seindorf y milwyr yn chware yno, a hanner pobl y dref yn eistedd dan y coed i wrando ar y canu ac i yfed gwin rhudd. Gwan a chelfyddydol a dienaid oedd y miwsig, — miwsig Ffrainc, nid miwsig Llydaw. Yr oedd yr awyr yn drom, yr oedd y gwres yn gwneud i arogl anioddefol godi o fudreddi'r ystrydoedd,