yr oedd sŵn y seindorf yn fyddarol, — gadawsom y lle chwyslyd llychlyd poeth, ac esgynasom i ben y mur. Daeth awel oer, a meddyginiaeth ar ei hadenydd, o'r môr i anadlu ar ein talcennau. Yr oedd arogl iach hesg ac ewyn arni, a dygodd furmur y môr yn lle twrw anuwiol yr utgyrn pres. Cerddasom am oriau yn ol ac ymlaen ar hyd y mur, gwelem yr ynysoedd duon caregog yn britho'r môr, a goleudy draw ymhell rhyngom a chartre. Gwyddem fod y graig lle naddwyd bedd i Chateaubriand ynddi yn y tywyllwch yn rhywle o'n blaen. Bu fyw yn y dref odditanom; er tywylled oedd, gwelem ei dŷ, tŷ sy'n westy i ddieithriaid yn awr. A dengys trigolion Dinas Malo yr ynysig lle'r huna. Bu ganddynt lawer arwr mewn rhyfel, llawer môrleidr enwog, ond yn Chateaubriand yr ymogoneddant. Dyweder am dano, yng ngeiriau Tadur Aled,—
" Y gwr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn,"
Cyn i ni ymadael yr oedd y ddinas yn dawel, a'i thyrau a'i muriau duon yn edrych yn dduach yn y nos, fel mynwent yn y môr.
"Y gwylanod o'r glennydd, — tua'r môr
Troi maent eu hadenydd ;
A'r holl ednain a'u sain sydd
Yn cludo tua'u clwydydd."