IV.
CRAIG Y BEDD.
“ |
“D'ou je voyais au loin frémir le bleu de l'onde, Comme un tissu d'azur sur un sein palpitant.' |
” |
AR ein codiad drannoeth, ail gychwynasom trwy'r ystrydoedd. Sylwem fyrred ac eiddiled oedd y dynion, — y mae'r aberth roddwyd i ryfeloedd yn dechre effeithio ar Ffrainc, — a hardded a chryfed oedd y merched. Yn y farchnad lysiau gwelsom nifer o wragedd, — rhianedd a gwrachod, — yn gwylio llysiau celyd a blodau geirwon, fel pe baent oll wedi tyfu ar lan y môr. Y mae'r ystrydoedd oll yn debig i'w gilydd, — yn uchel, yn gulion, yn ddrygsawrus. Fel Pabyddiaeth, o bell y mae St. Malo dlysaf. Esgynasom i'r mur. Nid yw y môr yn brydferthach yn unlle. Ac o'r mur, y mae'r dref yn meddu harddwch hefyd, ymgyfyd fel caer wedi ei chodi'n gyfanwaith gan yr un cynllunydd, a'r eglwys yn dŵr uchaf iddi. Y mae amryw ynysoedd creigiog ar draethell St. Malo, ac ar drai gellir cerdded yn droedsych i ambell un o honynt. Yn y Grand Bey, un o'r rhai agosaf atom, y mae bedd Chateaubriand, yn y graig. Yr oedd y môr yn mynd allan, disgynasom oddiar y mur, a cherddasom o borth Mair dros dywod a cherrig at droed yr ynys. Y mae grisiau wedi eu naddu ynddi, esgynasom hwy, a chawsom ein hunain mewn hen amddiffynfa adfeiliedig. Ar ei lloriau ac o'i hamgylch tyf glaswellt garw, ac eithin, blodau'r gŵr drwg, a llysiau gwaedlyd. Gwelir hefyd ambell i feillionen a llygad y dydd, rhai geirwon, fel drwgweithredwyr wedi eu halltudio o gwmni eu cydflodau i'r ynysig unig hon. Ar ochr y môr y mae craig yn sefyll uwchben y dyfnder, ac ynddi y mae bedd. Ar y bedd y mae