croes o farmor garw, heb enw yn y byd. Yma y gorwedd Chateaubriand, ar ymyl craig uwch ben y môr. Y mae'r ynys yn eiddo iddo ef a'r gwylanod a'r blodau geirwon. Ar rai o'r ynysoedd y mae palasau heirdd, y mae amddiffynfeydd ar rai eraill, ond ar hon nid oes ond adfeilion, a blodau, a bedd.
Mae meddwl Llydaw'n debig iawn i feddwl Cymru,— yr un hoffter o dlysni, yr un cariad at yr ysbrydol, yr un pruddglwyf, yr un ymdeimlad o ddieithrwch tragwyddoldeb, yr un naws grefyddol. Y mae'r Llydawiaid wedi eu gadael yng nghornel eu hen wlad i ddysgu gwirioneddau'r ysbryd i'r Ffrancod arwynebol, gwamal; fel y gadawyd y Cymry i ddysgu'r Sais oer digydymdeimlad. Yn hyn o beth, y mae Chateaubriand wedi gwneud gwaith y Llydawr i'r dim, dysgodd y Ffrancod i ymhyfrydu mewn tlysni arddull, a dysgodd rai o'r giwed ddiffydd i weled cyrrion y byd ysbrydol sy'n cilio mor gyflym o'u golwg yn ein dyddiau ni. Llais crefydd Llydaw ydyw llais Chateaubriand i'w glywed ymysg lleisiau gwawdlyd anffyddwyr Ffrainc. Yn St. Malo y ganwyd ef, ac efe ei hun ddewisodd le ei fedd. Anodd fuasai cael lle mwy tawel. Er fod yr ynys yn nannedd y gwynt, y mae lle tawel ar y bedd dan gysgod y groes, pan fo'r gwynt a'r tonnau'n curo ar y graig. Y tu cefn i'r ynysig y mae bywyd prysur, ond ynddi hi ceir tawelwch agos y bedd a thawelwch pell y môr. Tybed fod ysbryd Llydaw wedi gorffwys ym medd Chateaubriand? Nid oes yno wladgarwch, mae'r Ffrancaeg ac anffyddiaeth yn prysur ennill tir, ac y mae bedd Chateaubriand yn edrych, nid tua'i wlad ond tua'r môr.
Yr oedd y llanw'n prysur guddio'r tywod pan adawsom yr ynys, ond ymysg y llennyrch tawel fyn le arhosol yn ein meddwl, y mae Craig y Bedd. Gwelsom oror Llydaw, — penrhyn y tu ol i benrhyn yn ymestyn i'r môr,— ac atgofiodd hyn ni nad oeddym eto ond ar gyrrau'r wlad. Aethom i'r Llythyrdy i ysgrifennu adre,— adeilad coed, llawr pridd, lle treiodd clarc bach