ŵr bach, gan na fedrai hi anelu. Wedi gadael y begeriaid, yr oedd gwely'r afon yn gulach, ymgodai creigiau uchel ar y naill law, a choedwigoedd ar y llall. Ymledodd yr afon wedyn, moriasom rhwng dwy res o goed poplys, a gwelsom Ddinan yn uchel uchel ar y bryn o'n blaenau. Y mae'r fordaith i fyny'r Rans yn un ddymunol odiaeth, er na cheir golygfeydd mor fawreddog a Loch Lomond, na rhai swynol fel golygfeydd y Rhein.
Synnem at gadernid Dinan, y mae uchter ei bryn yn ddau gant a hanner o droedfeddi, ac y mae mur o ddeg troedfedd ar hugain o uchter fel coron ar ei ben. Y mae'r afon wedi bod ers oesoedd yn gwneud y lle'n gadarnach, trwy ddyfnhau ei gwely wrth droi o gwmpas y dref ar ei ffordd i'r môr. Y mae pont wedi ei thaflu drosti, o Ddinan i Lan Fale, pont o wenithfeini, dros wyth gan troedfedd o hyd, ac agos i gant a hanner o uchter. Pan ddaeth y llong dan gysgod y ddinas, gwelem y bont fel enfys uwch ein pennau.
Wedi rhoi'n pedair Saesnes yng ngherbyd " Gwesty Lloegr," dechreuasom ddringo'r bryn i Ddinan, gan feddwl am y brwydro gwaedlyd fu rhwng y Normaniaid a'r Llydawiaid ar y llethrau serth hyn. Cyrhaeddasom borth Iersual, a dringasom ystryd gul droellog i Ystryd y Gwlan. Yna cawsom ein hunain yn y Stryd Fawr, ac ar ein llaw chwith gwelsom eglwys Falo, fel camel anferth ar ei liniau. Troisom i mewn i orffwys. Y mae ôl dwylaw pobl y bedwaredd ganrif ar ddeg ar lawer peth yn yr eglwys hon; dacw feddrod a chader garreg sy'n perthyn yn sicr i'r cyfnod hwnnw. Yr oedd marchnad yn y dref, a dylifai'r bobl i'r eglwys, gan ymgroesi'n ddefosiynol â dwfr swyn wrth y drws. Gwelsom lawer genethig yn codi'r llen sy'n cuddio'r gyffesgell, ac yn myned i mewn; ond gallem dybio, oddiwrth eu gwên hapus a'u mwmian canu, nad oedd ganddynt bechodau mawr nac edifeirwch.
Hwyrach y dylem ninnau gyffesu ein bod wedi llawenhau pan gododd y gwynt hetiau'r Ffrancod, cyn troi i grwydro am awr trwy'r hen heolydd sy'n ymdroelli