Cerddasom drwy'r farchnad i le agored arall, a gwelsom eglwys henafol St. Sauveur, gyda'i ffenestri hanner cylch a'i thô uchel, o'n blaen. Aethom i mewn, a gwelsom res hir o ferched yn eistedd, ac offeiriad edifeiriol ei wedd yn eu canol, yn disgwyl yn amyneddgar am eu tro i gyffesu. Synnem beth oedd ar feddwl yr offeiriad. Gwelsom y gist farmor du lle cedwir calon Duguesclin, ond ni welsom neb yn gweddio arno ef, — digon prin y medrir ei gyfri’n sant. Gweddio a gwneud gwyrthiau oedd gwaith y saint, nid gweithio ac achub cam y tlawd. Y mae'r hen fynwent wedi ei gwneud yn ardd ddymunol, cerddasom drwyddi, a chawsom ein hunain ar y mur, yn edrych ar olygfa ogoneddus. Yr oedd yr afon odditanom, yr oeddym yn rhy uchel i weled a oedd ei dwfr yn rhedeg ai peidio, nid oedd ein llong yn fwy nag esgid baban, yr oedd y bobl groesent y bont yn ymddangos i ni cyn lleied a phlant, fel yr ymddanghosai'r bobl ar y gwaelod iddynt hwythau. Ymestynnai gwlad goediog fryniog mer bell ag y gallai'r llygad weled, ac yr oedd yr awel yn cludo arogl miloedd o goed dros yr hen fur. Y mae'r llecyn hwn, fel castell Heidelberg yn yr Almaen, yn denu miloedd yma o bob gwlad, i syllu ar yr olygfa gafwyd trwy wneud y fynwent yn ardd. Yr oedd yn prysur hwyrhau pan oeddym yn gorffen ein tro o gylch muriau a thyrau syrthiedig y lle henafol hwn. Clywem lais melys, fel llais pregethwr yn yr hwyl, yn dadleu rhagoriaethau pysgod werthai dyn y llais, ond mwy effeithiol i ni oedd ysgrech rybudd anaearol ein tren gerllaw.