Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/39

Gwirwyd y dudalen hon

V.

TAITH AR DRAED.

"Hawdd yw dwedyd 'Dacw'r Wyddfa',
Nid ei drosti ond yn ara'."

YR oedd yn ddigon goleu i ni weled yr orsaf gyntaf wedi gadael Dinan, — Corseul enw un o chwe llwyth Llydaw, y Curiosolites. Wedi hyn ni welem ddim. Yr oedd y tren yn mynd mor araf a phe bai angladd, ac nid oes dim mor flinedig i deithiwr Prydeinig ag arafwch tren y cyfandir. Meddyliem weithiau ein bod yn myned trwy goedwigoedd, dro arall y gwelem rosdiroedd eang dan y goleu aneglur. Arhosem amser direswm ym mhob gorsaf wledig lle na welem ond pigyn du rhyw eglwys rhyngom a'r awyr, lle prysurai pawb adre oddiwrth y tren olaf.

Erbyn cyrraedd Lamballe, cawsom fod gennym awr i aros hyd nes y deuai tren Paris trwodd i St. Brieuc. Dywedir fod Lamballe yn werth ei gweled, liw dydd. Buom ninnau trwy ei holl ystrydoedd, gwelsom ei heglwys ar ben bryn, a thybiasom weled colofnau cerfiedig a ffenestri meinion hirion. Ond yr unig beth wyddom i sicrwydd am Lamballe ydyw, ei bod yn eithaf tawel yno rhwng un ar ddeg a hanner nos.

Pan ddaethom yn ol, cawsom ein cyd-deithwyr milwrol meddwon yn oer ganu, tan dorrodd chwibaniad tren Paris ar eu sŵn. Treiasom gysgu ar y meinciau caledion, ac ni fuasai rhu olwynion y tren yn rhwystr i ni, oni bai am ysgrechfeydd y milwyr yr oedd gwin wedi llawenychu eu calonnau ac agor eu cegau. Ni chyrhaeddasom St. Brieuc cyn penderfynu na theithiem yn hir wedyn gyda'r tren, ac na theithiem byth wedi nos.