sefydlogrwydd y naill ag anwadalwch y llall. Yr oedd yn Llydaw werin wedi ei gwneud yn fwystfilaidd gan orthrwm, yn ddigon bwystfilaidd i droi at yr arglwyddi oedd yn gwasgu eu cyfraith ddidrugaredd arni, ac i ddarostwng y rhai hynny i'w dialedd erchyll a'i chyfraith ei hun. Y mae yng Nghymru werin wedi ei gwneud yn ddeallgar a hir ei hamynedd gan ddysgawdwyr gododd Duw o fysg y bobl, ac y mae'n dioddef ac yn dioddef tra mae'r gyfraith yn araf gydnabod ei cham. Ni welir capel yn unman yn nyffrynnoedd ac ar fryniau Llydaw, ac ni welir yno hen amaethwr penwyn yn byw mewn beudy, oherwydd gwrthod ymddangos yng ngwasanaeth dienaid y Llan, neu wrthod dweyd fod rhyw filwriad o Sais yn deilwng gynrychiolydd ei sir Gymreig yn y Senedd.
Cyn hir, wedi cerdded ar i fyny am awr a hanner, daethom i ben y tir, a dechreuasom gerdded ffordd wastad drwy gaeau gwenith eang. Yr oedd blodau adnabyddus hyd glawdd pridd y ffordd, — y ben galed a chwilys yr eithin, caem ambell i air â phobl yn gweithio,— "bon jour," neu "amser braw," — a mynych y deuem at groes a rhai'n penlinio o'i blaen. Cyn dod i Bordic, gwelem groes garreg o gerfiad tlws ryfeddol, a darllennem ar ei gwaelod mai iddi hi y rhoddwyd y wobr yn St. Brieuc. Nid ydyw'r Llydawiaid, mwy na'r Cymry, yn gystal cerfwyr ar bren na charreg a'u tadau, ond gwneir pob ymdrech yn Llydaw i ail ddysgu cerfio pren marw'n flodau, a gwneud i garreg ddelwi cynhesrwydd bywyd. Cwynir yng Nghymru nad oes gennym gelfau cain, ond anaml yr ymgyfyd cyfarfod llenyddol yn uwch na rhoi gwobr am ffon neu olwyn berfa; cwynir fod gennym ormodedd o feirdd, ac eto rhoddir y gwynt a'r cread a'r haul a'r nos yn destynau gwobrwyedig i'r bodau hyn draethu eu bychanedd arnynt.
Gwlad anodd cerdded ynddi ydyw Llydaw, y mae'r awyr yn drom ac yn llethol, y mae'r golygfeydd yn undonog, ac nid ydyw'r ffyrdd yn cuddio'u hyd trwy droelli rhwng bryniau. Ond cyn i ni ddechre cwyno,