gwelsom y môr. Rhyfedd y gorffwys rydd golwg ar ei bellter glâs. Ystwythodd ein coesau wrth ei weled, a chyflymasom i lawr tua Binic, ymdrochle bychan, cyrchle llawer o Ffrancod. Aethom i'r Hotel de Bretagne, a dywedodd hen ŵr llawen fod y cinio ar y bwrdd. Yr oedd yno gwmni mawr, a chedwid hwy'n ddifyr gan Ffrancwr anferth o gorff, a adroddai droeon trwstan Llydawiaid syml. Yr oeddym ni'n dau yn newynog ac yn sychedig, ac yfasom ddiod felen oedd ar y bwrdd, gan ddrwgdybio mai osai oedd. Nid oedd y dwfr yn yfadwy, ac yr oedd yn rhaid i ni yfed rhywbeth, neu dagu.
Wedi cinio, dringasom y bryn yr ymnytha Binic dano. Yr oedd yr haul yn boeth orlethol, ond ar ben y bryn yr oedd awel oer hyfryd, a golwg ar y môr a'r traeth. Eisteddasom yno ar fin y ffordd mewn glaswellt peraroglus, i wylio edyn melin wynt safai gerllaw. Gwelem weddoedd hirion y Llydawiaid yn dod i'r felin, — pedwar pen o geffylau, gyda choleri gwellt a mynciod pren am danynt, a chrwyn defaid wedi eu lliwio'n lâs ar gyrn y mynciod. Treiwn gofio cerdd Lydewig glywais unwaith, — melinydd yn gofyn lle'r oedd ei gariad, a melinydd arall yn ateb i sŵn ei felin fod y Barwn Hefin, gŵr mawr y felin ddŵr, wedi mynd a hi,
"Melfed du sy am dani'n dyn,
A bordor braf o arian gwyn ;
Cap fel eira sydd gan hon,
A rhosyn coch sydd ar ei bron.
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."
" Yn y llyn fe wel ei llun,
Yno saif i addoli ei hun.
Cân yn llon 'Myfi bia'r felin,
A myfi bia'r Barwn Hefin.'
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."