VI.
GWESTY LLYDEWIG.
YMHEN ychydig cynefinodd ein llygaid â thywyllwch y gegin, a gwelem beth oedd o'n cwmpas. Yr oedd hen wraig a golwg batriarchaidd arni, — brenhines ar dylwyth lliosog, — yn malu siwgwr yn brysur; yr oedd hen ŵr hirwallt yn bwyta potes yr ochr arall i'r ystafell, ac yr oedd dwy neu dair o enethod yn gwibio'n ol ac ymlaen dros y llawr pridd i gyflawni gorchwylion y tŷ. Y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd lle'r tân. Yr oedd mantell y simdde'n ddigon mawr i gysgodi dwsin o bobl, ac yr oedd yn y tu mewn iddi gadwyni wedi eu gwisgo a huddugl canrifoedd. Ar lawr yr oedd y tân, a chrochanau o bob math yn rhesi bob ochr iddo. Yr oedd Ifor Bowen a minnau wedi gosod ein hunain dan y simdde, pawb ar ei bentan, oherwydd mai dyna'r lle mwyaf cyfforddus yn y tŷ, a'r lle hawddaf gweled popeth o hono. Yr oeddym yn flinedig iawn, a gorffwysasom mewn distawrwydd, a'n llygaid yn agored. Cyn hir daeth un o'r genethod at y tân, — nid oedd fawr o hono, dim ond ychydig farwor. Gydag un llaw daliai badell ffrio, ac â'r llall rhoddai ddefnydd ar y tân, ac yr oedd hwnnw yn ufuddhau iddi, weithiau'n swatio dan y badell, a thro arall yn ymsaethu i fyny'n fflam oleugoch, fel pe'n sefyll ar faenau ei draed i weled pwy oedd yn y tŷ. Pan godai'r fflam, gwelem ninnau'r tŷ — gwely mawr wedi ei orchuddio gan lenni trymion, cypyrddau llawn o lestri disglair, trawstiau'n camu dan bwysau cig hallt à llin, cŵn 0 bob lliw'n gwylio dan y cypyrddau, bwrdd hir a rhes o wynebau y tu hwnt iddo'n edrych tua'r bobl ddieithr a'r crochan. Toc, daeth rhywun i mewn, a gorchymynnodd oleu canwyll mewn tôn