awdurdodol. Gŵr unfraich oedd, wedi colli'r fraich arall wrth ddilyn Chanzy ar un o feysydd gwaedlyd rhyfel yr Almaen. Yr oedd ganddo lyfr dan ei gesail, llyfr y llywodraeth, a galwodd arnom at y bwrdd i dorri ein henwau, ac i ddweyd tipyn o'n hanes, — ein hoed, lle ein genedigaeth, ein preswylfan, o ble y daethem, i ble yr aem, beth oedd ein neges, pa lywodraeth a'n noddai. Yr oedd wedi drwgdybio mai Ellmyn oeddym, ond gwenodd pan welodd enw Cymru, a gofynnodd a oeddym yn medru deall Llydaweg. Yr oeddym yn uchel yng ngolwg pawb wedi i ddyn y llywodraeth wenu arnom. Nid oedd iar yng nghefn y tŷ a'i gwddf yn ddiberigl, nid oedd dim yn y tý nag yn y farchnad na chaem ef, yr oedd y genethod a'r crochanau a'r tân yn barod. Wedi cydymgynghori, gofynasom am goffi a llaeth. Prin yr oedd y gair o'n genau cyn fod un o'r gweision yn dal dwy sospan uwchben y tân, — coffi yn un, a llaeth yn y llall. Bum yn synnu droeon pam y mae gwin yn destun i'r beirdd, tra mae eu hawen yn ddistaw am goffi a thê. Mae llawer cân gynhyrfus am win coch y Rhein, —
“ |
"There is nothing that cheers a heart like mine, |
” |
ond ni chlywais fod yr un bardd erioed wedi canu i goffi du Arabia na thế gwyrdd Ceylon. Yr oedd y coffi gawsom ni yn werth gwneud pryddest iddo. Yr oedd yn aroglus, yn flasus, dadluddedodd a deffrodd ni. Gadawyd y ganwyll hir yn oleu er anrhydedd i ni, ac yr oedd yno gynulleidfa o bobl yn barod i siarad a chwerthin. Gofynnais a oedd ganddynt lyfr yn y tŷ. Nac oedd, yr un. Gofynnais i'r bobl a fedrent ddarllen, ac a oedd ganddynt lyfrau. Nid oedd yno neb yn medru darllen, ond yr oedd un hogyn pengrych yn meddu llyfr. Rhedodd i'w geisio, a rhoddodd ef yn fy llaw. Holiedydd Pabyddol oedd, a gwrandawai pawb arnaf fi'n holi, a'r Llydawr bach yn ateb, —