- "Pet person so en Doue? »
- "Tri, an Tad, a'r Map, hac ar Speret — Santel."
- "Pet sort ele (angylion) so?"
- "Daou sort, drwg ele hac ele mâd."
- "Pelech e mân Iesus Christ?"
- "Efel Doue e mân dre oll; e fel Doue a den assambles (ynghyd), e mân er Barados hac en sacrament."
- "Fet poan a swffras en he gorff ar groes?"
- "Pemp. Ar chenta, e chwesas an dwr hac ar goad.
An eil, e oe fflagellet. An trede, e oe curunet a spern. Ar befare, e twgas he groes. Pempet, e oe crucifiet.'
- "Pet sort peden (gweddi) so?"
- "Daou sort, ar beden a galon, ac ar beden a cheno."
- "Levet ar befare gwrechemen."
- "Da dad, da fam a enori, efit pell amser a fefi."
Yr oedd llawer o athrawiaeth gau yn yr holiedydd, am Fair, am Burdan, am haeddiannau iawnol gweddiau'r saint, am y Pab, ond yr oedd ynddo lawer testun ardderchog i bregethu i'r Llydawiaid oedd o'n cwmpas. Clogyrnog oedd ein Ffrancaeg ar y goreu, ac am Lydaweg, ni fedrem ddim. Nid oeddym wedi gweled adnod yn Llydaweg erioed, onide nyni a'i dywedasem y noson honno. Os cyfarfyddaf un o'r Llydawiaid hyn yn y farn ddiweddaf, gallaf ddadleu dadl Moses nad oeddwn ŵr ymadroddus, eithr safndrwm a thafotrwm oeddwn. Medrwn wneud fy hun yn ddealledig i bobl ddysgedig, Ond yr oedd yn amhosibl i mi ddweyd fy meddwl am eu crefydd wrth y bobl hyn fel y deallent fi. Teimlwn eu bod yn barod i wrando, gwyn fyd na fedrwn siarad.
Daeth gŵr tew trwsiadus i mewn, a gofynnodd i'r hen wraig a gaem fyned i'r parlwr i ysgwrsio. Esboniodd jni mai swyddog cyllid y llywodraeth oedd. Gwelem oddiwrth ei lygaid mawrion duon nad Llydawr oedd, a dywedodd toc mai o ddeheudir Ffrainc y daeth, a'i fod wedi graddio yn athrofa Toulouse. Nid oedd y parlwr mor ddiddorol a'r gegin, ystafell fechan, bwrdd crwn ar ei chanol, a darluniau lliwedig o frwydrau'r Ffrancod. Ni fu Pierre Amand yn hir heb wneud ei hun yn gysurus uwchben ei dybaco a'i win. Gwleidyddiaeth oedd pwnc cyntaf ein hysgwrs, a dywedasom