y noson honno os medrem, dywedodd ei fod yntau'n myned hefyd, a bod ganddo'r ddau geffyl goreu yn Llydaw. Efe oedd gyrrwr car y post, ac yr oedd yn cario teithwyr gyda'r llythyrau. Cyn pen yr hanner awr, yr oedd Ifor Bowen a minnau'n eistedd ar fainc flaenaf car y post gydag Ioan y Gyrrwr, a'r tu ol i ni yr oedd chwech neu saith o Lydawiaid yn mynd i Dreguier neu Lannion. Weithiau siaradent Lydaweg, dro arall Ffrancaeg, a synnem at sydynrwydd eu troiadau o'r naill iaith i'r llall. Yr oeddynt yn bobl ddeallgar, — yr oedd un wedi darllen Renan, un arall wedi bod yn Aber Tawe, a'r cwbl yn awyddus iawn am wybod ein hanes.
Yr oedd ddau geffyl gwyn yn mynd yn brydferth hyd y ffordd wastad, a'u mwng yn yr awel. Cyn dod i Lèzardrieux, croesasom bont sy'n crogi dros gan troedfedd uwchben dwfr yr afon Prieux, ac yr oedd y bont yn ysgwyd fel siglen wrth i'r cerbyd groesi. Yr oedd golwg brydferth ddigymar ar yr ochrau coediog odditanom, a'r muriau tan eu heiddew, a'r afon lydan, a'i thywod wedi ei guddio gan lanw'r môr. Yr oedd clychau Guezennec yn canu cnul, a llawenydd priodas yn Nhredarzec, wrth i geffylau Ioan garlamu trwyddynt. Arafasom wrth fynd i lawr dyffryn afon Guindy, a dywedodd Ioan, wrth ein gweled yn mwynhau'r olwg arni, y croesem hi lawer gwaith.
Dringasom ystryd serth o hen dai, ac yr oeddym dan gysgod eglwys Tre Guier. Nid oedd amser i fyned iddi, ond edmygem ei thŵr ysgafn uchel, a'i lliaws ffenestri crynion. Yn Nhre Guier yr oedd teithwyr Ioan yn talu am eu cludo. Yr oedd y teithwyr o Ben Pwl i Lannion yn talu yn y Llythyrdy, ond i Ioan y talai pawb godid ar y ffordd. Gwrthod cymeryd dim y gwelais Ioan bob tro, dyna un rheswm pam yr oedd pawb yn gwenu wrth iddo fyned heibio, oherwydd yr oedd yn amlwg na fu creadur caredicach na dedwyddach yn rhodio'r ddaear. Ond yn y Llythyrdy yr oedd ganddynt hen arfer o godi dwbl ar bobl ddieithr.