Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

Clywais Ioan yn dadleu a hwy, ni wyddwn y pryd hwnnw mai dadleu drosom ni yr oedd. Y mae'n dda gennyf feddwl am y wraig wyneb y glem a'm hyspeiliodd mai Ffrances, ac nid Llydawes, oedd. Ond hwyrach na ddylwn gwyno, bum yn talu swllt yn lle naw ceiniog i gerbydwr yn Sir Gaernarfon, am fy mod wedi siarad Saesneg ag ef, pan oeddwn yn dechre dysgu'r iaith honno; a bum yn talu dau swllt yn lle deunaw yn Sir Feirionnydd i logwr ceffylau haearn, am yr un amryfusedd.

Yr oedd golwg ar wyneb gonest Ioan yn ddigon i wneud i ddyn anghofio chwerwder cael "ei wneud." Yr oedd yn gwneud rhyw ddireidi o hyd, — bloeddio ar ferched yn cario llestri ar eu pennau, er mwyn i ni weled pa mor sicr y safent; dychrynnu plant a'i chwip hir, i ni gael clywed eu hesgidiau pren yn clecian wrth ddianc; cymeryd arno nad oedd wedi dal llythyrau deflid iddo ar y ffordd. Ond yr oedd yn dyner wrth ei geffylau, a rhoddodd gyngor i ni, os byth yr elem yn yrwyr ceffylau, beidio chwipio, gan na wna hynny ddim da yn y diwedd. Cyflymasom drwy La Roche Derrien a Llangoed a Chaer Anhal, a dechreuodd Ioan ofni y caem ein hyspeilio wedyn yn Lannion. Dywedodd y gwyddai ef am westy cysurus, gedwid gan bobl onest, yng nghanol y dre. Medrai roddi ei air yr hoffem ef, oherwydd yno yr oedd ef yn rhoi i fyny ei hun. Ni fedrai ysgrifennu, ond rhoddodd bapur a phensel i fachgen oedd yn y cerbyd, a dywedodd wrtho am ysgrifennu fel hyn, — "M. Pouhaër, dyma ddau ŵr dieithr, yr wyf yn erfyn arnoch fod yn garedig wrthynt, Ioan y Gyrrwr." Rhyw dair milltir cyn cyrraedd Lannion, gofynnodd Ioan a hoffem weld mynd, a chyda'r gair yr oedd y ddau geffyl gwyn ar garlam gwyllt. Yr oedd y cerbyd yn crynnu drwyddo, ac weithiau'n neidio fel peth byw, nid oedd arnaf lai nag ofn iddo fynd yn yfflon, fel na wyddai neb pa ran o bentwr diffurf fuasai Ioan y Gyrrwr ac Ifor Bowen a minnau a'r ddau geffyl gwyn.