Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

"Beth sy'n yr Eglwys yfory?" "Gwasanaeth yr offeren, rhaid i chwi fynd yno. O, mae yn dlws."

"Raid i chwi gyffesu cyn cymuno?"
"O na raid, byddaf yn cymuno bob Sul, ond ni fyddaf yn cyffesu ond unwaith yn y flwyddyn, yn y Pasg."
"Beth? Cyffesu dim ond unwaith am bechodau
blwyddyn?"
"Ie. Ni fyddaf fi ddim yn pechu, byddaf yn codi'n fore ac yn gweithio'n galed bob dydd, byddaf yn ennill fy mwyd heb wneud drwg i neb. A beth fynnwch chwi'n chwaneg?
"Feddyliwn i na raid i chwi ddim cyffesu o gwbl. Pam y byddwch yn gwneud?"
"Wel, tawn i 'n digwydd gwneud rhywbeth, lladrata, fel y darfu'r wraig yn Nhreguier oddiarnoch chwi."
" Beth ddigwyddai yn y gyffesgell?"
"Fe holai'r offeiriad fi, — beth ydyw f'enw, pwy ydwyf, o ba le y dof, beth ydi'm gwaith, pwy ddrwg a wnes.'
"Os byddwch wedi dwyn, a raid i chwi dalu am gyffesu?"
"O na raid, dim ond rhoi'r peth yn ei ol, neu ni chaf fy nghymun."
"Ond beth pe baech yn cyflawni rhyw bechod mawr? Beth, er enghraifft, pe syrthiech mewn cariad?"
"O, 'dydyw hynny ddim yn bechod?"
"Ydyw, ofnadwy. A beth pe baech yn curo'r gŵr?"
"Fel arall y mae hi yn Llydaw, y gwŷr fydd yn curo'r gwragedd. Onid ydyw hynny'n gywilydd? Bydd y gŵr yn yfed brandi a gwin rhudd, ac yn mynd adre i guro'r wraig.Mae pawb yn Llydaw yn meddwi ac yn curo eu gwragedd. Phrioda i byth, gwnes fy meddwl i fyny ers blynyddoedd."
"Fydd yr offeiriad yn curo'r wraig? "
"Na, 'does ganddo fo yr un. Ni chaiff yr offeiriad ddim edrych ar wragedd, i'w hoffi, rhagor eu priodi."
"Fydd yr offeiriaid ddim yn esgymuno'r gwŷr? "
Na fyddant byth. A fuase'r gwŷr ddim yn malio, achos 'does arnynt hwy ddim eisiau cael eu cymun.
"Mae crefydd Llydaw wedi mynd yn rhy wan i effeithio ar fywydau pobl, felly?"
Ydyw, yn wir. Ond y mae gwasanaeth yr offeren yn dlws iawn. Chwi gewch ei weled yfory."


Yr oedd ein hystafell yn un o'r rhai mwyaf cysurus, — gwelyau wedi eu gorchuddio â llenni gwynion, bwrdd a thaclau ysgrifennu, a hen ddodrefn cerfiedig fu'n gwasanaethu llawer oes. Yr oedd y dref fechan yn