hynny, ysgrifennu geiriau fel di wad' ar ddiwedd llinell, a'u llenwi i fyny, — 'mad'
"Deuwch oll, Gymry mad,
I wrando arna 'i yn ddi wad."
Gellir cyfansoddi yn y mesurau caethion gyda llai fyth o feddwl. Meddylier fod eisiau begio ambarelo dros hen ŵr. Doder rhyw gynghaneddion i lawr i ddechre, —
dd : s : f : : dd : s : f
b : th : r : : b : th : r
g : ch : r : : g : ch : r
Yna llanwer y gwagleodd â rhyw lythyrennau eraill, fel y ffurfier rhyw eiriau. Ceir clywed y beirniaid yn cyhoeddi fod y llinellau'n ddiwall.
"Ei ddeisyfiad ddwys ufudd,
A'i obeth wir beth er budd,
Gael drwy glod i'w gysgodi,
Geinwych ŵr un gennych chwi."
O ddiffyg enaid y mae'r beirdd yn andwyo llenyddiaeth, o eisiau bara yr ydym ni " bobl y Wasg yn gwneud ein rhan. Rhaid i ni lenwi colofnau hirfeithion, boed gennym rywbeth i'w ddweyd neu beidio. Ona ysgrifennid ein gofidiau ar femrwn! O na bai treth drom ar bapur eto, fel yn y dyddiau gynt.
Y mae llenyddiaeth Ffrengig yn waeth o'r hanner na llenyddiaeth Gymreig, — yn fwy chwyddedig a dichwaeth, yn llawnach o ffug — deimlad a ffug — ddysgeidiaeth. Bu bardd yn Ffrainc yn darllen i mi gân gyfansoddasai i'w enaid, "Ify Enaid" oedd y testun. Y mae buddugoliaeth cwch Ffrengig ar gwch Seisnig, chwe Ffrancwr yn erbyn dau Sais, yn "fuddugoliaeth ogoneddus." Y mae pob tŷ tafarn bach tô brwyn yn "westy mawr ysblenydd," — megis Hotel Fawr y Gath Fach. Y mae tŷ brics newydd ym Minic, yn llawn o arogl calch a phaent. Ceir ynddo ddwy ystafell